×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Eseciel 36

1
"Fab dyn, proffwyda wrth fynyddoedd Israel a dywed, 'O fynyddoedd Israel, clywch air yr ARGLWYDD.
2
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i'r gelyn ddweud amdanoch, "Aha! Daeth yr hen uchelfeydd yn eiddo i ni!"
3
felly proffwyda a dywed: Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iddynt eich gwneud yn ddiffeithwch ac yn anrhaith o bob tu, nes ichwi fynd yn eiddo i weddill y cenhedloedd, yn destun siarad ac yn enllib i'r bobl,
4
felly, O fynyddoedd Israel, clywch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd, wrth yr adfeilion diffaith a'r dinasoedd anghyfannedd, sydd wedi mynd yn ysglyfaeth ac yn wawd i weddill y cenhedloedd o amgylch;
5
felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Lleferais yn fy sl ysol yn erbyn gweddill y cenhedloedd, ac yn erbyn y cyfan o Edom, oherwydd iddynt, llawenydd yn eu calon a malais yn eu hysbryd, wneud fy nhir yn eiddo iddynt eu hunain a gwneud ei borfa yn anrhaith.'
6
Felly, proffwyda am dir Israel, a dywed wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi'n llefaru yn fy eiddigedd a'm llid, oherwydd ichwi ddioddef dirmyg y cenhedloedd.
7
Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn tyngu y bydd y cenhedloedd o'ch amgylch yn dioddef dirmyg.
8
"'Ond byddwch chwi, fynyddoedd Israel, yn tyfu canghennau ac yn cynhyrchu ffrwyth i'm pobl Israel, oherwydd fe ddnt adref ar fyrder.
9
Wele, yr wyf fi o'ch tu ac yn troi'n l atoch; cewch eich aredig a'ch hau,
10
a byddaf yn lluosogi pobl arnoch, sef tu375? Israel i gyd. Fe gyfanheddir y dinasoedd ac fe adeiledir yr adfeilion.
11
Byddaf yn lluosogi pobl ac anifeiliaid arnoch, a byddant yn lluosogi ac yn ffrwythloni; byddaf yn peri i rai fyw arnoch fel o'r blaen, a gwnaf fwy o ddaioni i chwi na chynt. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
12
Gwnaf i bobl, fy mhobl Israel, gerdded arnoch; byddant yn eich meddiannu, a byddwch yn etifeddiaeth iddynt, ac ni fyddwch byth eto'n eu gwneud yn amddifad.
13
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd bod pobl yn dweud wrthych, "Yr ydych yn difa pobl ac yn amddifadu eich cenedl o blant",
14
felly, ni fyddwch eto'n difa pobl nac yn gwneud eich cenedl yn amddifad, medd yr Arglwydd DDUW.
15
Ni pharaf ichwi eto glywed dirmyg y cenhedloedd, na dioddef gwawd y bobloedd, na gwneud i'ch cenedl gwympo, medd yr Arglwydd DDUW.'"
16
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
17
"Fab dyn, pan oedd tu375? Israel yn byw yn eu gwlad eu hunain, yr oeddent yn ei halogi trwy eu ffyrdd a'u gweithredoedd; yr oedd eu ffyrdd i mi fel halogrwydd misol gwraig.
18
Felly tywelltais fy llid arnynt, oherwydd iddynt dywallt gwaed ar y tir a'i halogi 'u heilunod.
19
Gwasgerais hwy ymhlith y cenhedloedd nes eu bod ar chwl trwy'r gwledydd; fe'u bernais yn l eu ffyrdd a'u gweithredoedd.
20
I ble bynnag yr aethant ymysg y cenhedloedd, yr oeddent yn halogi fy enw sanctaidd; oherwydd fe ddywedwyd amdanynt, 'Pobl yr ARGLWYDD yw'r rhain, ond eto fe'u gyrrwyd allan o'i wlad.'
21
Ond yr wyf yn gofalu am fy enw sanctaidd, a halogwyd gan du375? Israel pan aethant allan i blith y cenhedloedd.
22
"Felly dywed wrth du375? Israel, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid er dy fwyn di, du375? Israel, yr wyf yn gweithredu, ond er mwyn fy enw sanctaidd, a halogaist pan aethost allan i blith y cenhedloedd.
23
Amlygaf sancteidd-rwydd fy enw mawr, a halogwyd gennyt ti ymysg y cenhedloedd. Yna bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, medd yr Arglwydd DDUW, pan fyddaf trwoch chwi yn amlygu fy sancteiddrwydd yn eu gu373?ydd.
24
Oherwydd byddaf yn eich cymryd o blith y cenhedloedd, yn eich casglu o'r holl wledydd, ac yn dod chwi i'ch gwlad eich hunain.
25
Taenellaf ddu373?r gln drosoch i'ch glanhau; a byddwch yn ln o'ch holl aflendid ac o'ch holl eilunod.
26
Rhof i chwi galon newydd, a bydd ysbryd newydd ynoch; tynnaf allan ohonoch y galon garreg, a rhof i chwi galon gig.
27
Rhof fy ysbryd ynoch, a gwneud ichwi ddilyn fy neddfau a gofalu cadw fy ngorchmynion.
28
Byddwch yn byw yn y tir a roddais i'ch hynafiaid; byddwch yn bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi.
29
Gwaredaf chwi o'ch holl aflendid; byddaf yn galw am y grawn ac yn gwneud digon ohono, ac ni fyddaf yn dwyn newyn arnoch.
30
Byddaf yn cynyddu ffrwythau'r coed a chnydau'r maes, rhag ichwi byth eto ddioddef dirmyg newyn ymysg y cenhedloedd.
31
Yna byddwch yn cofio eich ffyrdd drygionus a'r gweithredoedd drwg, a byddwch yn eich casu eich hunain am eich camweddau a'ch ffieidd-dra.
32
Bydded wybyddus i chwi nad er eich mwyn chwi yr wyf yn gweithredu, medd yr Arglwydd DDUW. Bydded cywilydd a gwarth arnoch am eich ffyrdd, du375? Israel!
33
"'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ar y dydd y glanhaf chwi o'ch holl gamweddau, fe gyfanheddir y dinasoedd ac fe adeiledir yr adfeilion.
34
Caiff y wlad oedd yn ddiffaith ei thrin, rhag iddi fod yn ddiffaith yng ngolwg pawb sy'n mynd heibio.
35
Fe ddywedant, "Aeth y wlad hon, a fu'n ddiffaith, fel gardd Eden, ac y mae'r dinasoedd a fu'n adfeilion, ac yn ddiffeithwch anial, wedi eu cyfanheddu a'u hamddiffyn."
36
Yna, bydd y cenhedloedd a adawyd o'ch amgylch yn gwybod i mi, yr ARGLWYDD, ailadeiladu'r hyn a ddinistriwyd ac ailblannu'r hyn oedd yn ddiffaith. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd, ac fe'i gwnaf.
37
"'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf eto'n gwrando ar gais tu375? Israel ac yn gwneud hyn iddynt: byddaf yn amlhau eu pobl fel praidd.
38
Mor lluosog phraidd yr offrwm, mor lluosog phraidd Jerwsalem ar ei gwyliau penodedig, felly y llenwir y dinasoedd a fu'n adfeilion phraidd o bobl. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau