×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Eseciel 4

1
"Tithau, fab dyn, cymer briddlech a'i gosod o'th flaen, a darlunia arni ddinas Jerwsalem.
2
Gosod warchae arni, adeilada warchglawdd o'i hamgylch, cod esgynfa tuag ati, rho wersylloedd yn ei herbyn a gosod beiriannau hyrddio o'i chwmpas.
3
Yna cymer badell haearn a'i rhoi fel mur o haearn rhyngot ti a'r ddinas, a thro dy wyneb tuag ati; a bydd dan warchae, a thithau'n ymosod arni. Arwydd fydd hyn i du375? Israel.
4
"Yna gorwedd ar dy ochr chwith, a gosod ddrygioni tu375? Israel arni; byddi'n cario eu drygioni am nifer y dyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.
5
Yr wyf wedi pennu ar dy gyfer yr un nifer o ddyddiau ag o flynyddoedd eu drygioni, sef tri chant naw deg o ddyddiau, iti gario drygioni tu375? Israel.
6
Wedi iti orffen hyn, gorwedd ar dy ochr dde, a charia ddrygioni tu375? Jwda; yr wyf wedi pennu ar dy gyfer ddeugain o ddyddiau, sef diwrnod am bob blwyddyn.
7
Tro dy wyneb tuag at warchae Jerwsalem, ac 'th fraich yn noeth proffwyda yn ei herbyn.
8
Rhoddaf rwymau amdanat fel na elli droi o'r naill ochr i'r llall nes iti orffen dyddiau dy warchae.
9
"Cymer iti wenith a haidd, ffa a phys, miled a cheirch, a'u rhoi mewn un llestr, a gwna fara ohonynt; byddi'n ei fwyta yn ystod y tri chant naw deg o ddyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.
10
Byddi'n bwyta dy fwyd wrth bwysau, ugain sicl y dydd, ac yn ei fwyta yr un amser bob dydd.
11
A byddi'n yfed du373?r wrth fesur, chweched ran o hin, ac yn ei yfed yr un amser bob dydd.
12
Byddi'n ei fwyta yn deisen haidd wedi ei chrasu yng ngu373?ydd y bobl ar gynnud o garthion dynol."
13
A dywedodd yr ARGLWYDD, "Fel hyn y bydd plant Israel yn bwyta bara halogedig ymysg y cenhedloedd y gyrraf hwy atynt."
14
Atebais, "O Arglwydd DDUW, nid wyf erioed wedi fy halogi fy hun; o'm hieuenctid hyd yn awr nid wyf wedi bwyta dim a fu farw nac a ysglyfaethwyd, ac ni ddaeth cig aflan i'm genau."
15
Yna dywedodd wrthyf, "Edrych, fe ganiatf iti ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dynol i grasu dy fara."
16
Dywedodd hefyd, "Fab dyn, yr wyf yn torri ymaith y gynhaliaeth o fara o Jerwsalem; mewn pryder y byddant yn bwyta bara wrth bwysau, ac mewn braw yn yfed du373?r wrth fesur.
17
Bydd y fath brinder o fara a du373?r fel y byddant yn brawychu o weld ei gilydd; byddant yn darfod oherwydd eu drygioni.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau