×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Eseciel 8

1
Ar y pumed dydd o'r chweched mis yn y chweched flwyddyn, a minnau'n eistedd yn fy nhu375?, a henuriaid Jwda yn eistedd o'm blaen, daeth llaw yr Arglwydd DDUW arnaf yno.
2
Ac wrth imi edrych, gwelais ffurf oedd o ran ymddangosiad yn ddynol. o'r hyn a edrychai fel ei lwynau i lawr, yr oedd yn dn, ac o'i lwynau i fyny yr oedd yn debyg i efydd gloyw a disglair.
3
Estynnodd allan yr hyn a edrychai fel llaw, a'm cymryd gerfydd gwallt fy mhen. Cododd yr ysbryd fi rhwng daear a nefoedd, a mynd mi mewn gweledigaethau Duw i Jerwsalem, at ddrws porth y gogledd i'r cyntedd mewnol, lle safai delw eiddigedd, sy'n achosi eiddigedd.
4
Ac yno yr oedd gogoniant Duw Israel, fel yn y weledigaeth a gefais yn y gwastadedd.
5
Yna dywedodd wrthyf, "Fab dyn, cod dy olygon i gyfeiriad y gogledd." Codais fy ngolygon i gyfeiriad y gogledd, a gwelais yno, i'r gogledd o borth yr allor, yn y fynedfa, y ddelw hon o eiddigedd.
6
Dywedodd wrthyf, "Fab dyn, a weli di beth y maent yn ei wneud, y pethau cwbl ffiaidd y mae tu375? Israel yn eu gwneud yma, i'm pellhau oddi wrth fy nghysegr? Ond fe gei weld eto bethau mwy ffiaidd."
7
Yna aeth mi at ddrws y cyntedd, ac wrth imi edrych gwelais dwll yn y mur.
8
Dywedodd wrthyf, "Fab dyn, cloddia i'r mur." Cloddiais i'r mur, a gwelais ddrws yno.
9
Dywedodd wrthyf, "Dos i mewn, ac edrych ar y ffieidd-dra drygionus y maent yn ei wneud yno."
10
Euthum i mewn, ac wrth imi edrych gwelais bob math o ymlusgiaid, anifeiliaid atgas, a holl eilunod tu375? Israel, wedi eu cerfio ym mhobman ar y mur.
11
Yr oedd deg a thrigain o henuriaid tu375? Israel yn sefyll o'u blaenau, a Jaasaneia fab Saffan yn sefyll yn eu canol; yr oedd thuser yn llaw pob un ohonynt, a chwmwl persawrus o arogldarth yn codi.
12
A dywedodd wrthyf, "A welaist ti, fab dyn, beth y mae henuriaid tu375? Israel yn ei wneud yn y tywyllwch, bob un ohonynt yn ystafell ei gerfddelw? Fe ddywedant, 'Nid yw'r ARGLWYDD yn ein gweld; gadawodd yr ARGLWYDD y wlad.'"
13
Dywedodd hefyd, "Fe gei weld eto bethau mwy ffiaidd y maent yn eu gwneud."
14
Yna aeth mi at ddrws porth y gogledd i du375?'r ARGLWYDD, a gwelais yno wragedd yn eistedd i wylo am Tammus.
15
A dywedodd wrthyf, "A welaist ti hyn, fab dyn? Fe gei weld eto bethau mwy ffiaidd na'r rhain."
16
Yna aeth mi i gyntedd mewnol tu375?'r ARGLWYDD, ac yno wrth ddrws teml yr ARGLWYDD, rhwng y cyntedd a'r allor, yr oedd tua phump ar hugain o ddynion; yr oedd eu cefnau at deml yr ARGLWYDD, a'u hwynebau tua'r dwyrain, ac yr oeddent yn ymgrymu i'r haul yn y dwyrain.
17
Dywedodd wrthyf, "A welaist ti hyn, fab dyn? Ai bychan o beth yw bod tu375? Jwda yn gwneud y pethau ffiaidd a wnnt yma? Ond y maent hefyd yn llenwi'r ddaear thrais ac yn cythruddo rhagor arnaf; edrych arnynt yn gosod y brigyn wrth eu trwynau.
18
Byddaf fi'n gweithredu mewn llid tuag atynt; ni fyddaf yn tosturio nac yn trugarhau. Er iddynt weiddi'n uchel yn fy nghlustiau, ni wrandawaf arnynt."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau