×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Eseciel 9

1
Yna clywais lais uchel yn dweud, "Dewch 'r rhai sydd i gosbi'r ddinas, pob un ag arf distryw yn ei law."
2
Gwelais chwech o ddynion yn dod o gyfeiriad y porth uchaf, sy'n wynebu'r gogledd, pob un ag arf marwol yn ei law; gyda hwy yr oedd dyn wedi ei wisgo lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg. Daethant i mewn a sefyll gyferbyn 'r allor bres.
3
Yna cododd gogoniant Duw Israel i fyny oddi ar y cerwbiaid, lle bu'n aros, a mynd at riniog y deml. Galwodd yr ARGLWYDD ar y dyn oedd wedi ei wisgo lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg,
4
a dweud wrtho, "Dos trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerwsalem, a rho nod ar dalcen pob un sy'n gofidio ac yn galaru am yr holl bethau ffiaidd a wneir ynddi."
5
A dywedodd yn fy nghlyw wrth y lleill, "Ewch trwy'r ddinas ar ei l ef, a lladdwch; peidiwch thosturio na thrugarhau.
6
Lladdwch hynafgwyr, gwu375?r ifainc a llancesi, gwragedd a phlant; ond peidiwch chyffwrdd ag unrhyw un sydd nod arno. Dechreuwch yn fy nghysegr." A dechreuodd y dynion gyda'r henuriaid oedd o flaen y deml.
7
Yna dywedodd wrthynt, "Halogwch y deml, a llanwch y cynteddoedd 'r rhai a laddwyd; ewch allan." Aethant allan a lladd trwy'r ddinas.
8
Tra oeddent yn lladd, a minnau wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais a dweud, "O Arglwydd DDUW, a ddistrywi di holl weddill Israel wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem?"
9
Atebodd fi, "Y mae drygioni tu375? Israel a Jwda yn hynod fawr; y mae'r wlad yn llawn o dywallt gwaed, a'r ddinas yn llawn anghyfiawnder, am eu bod yn dweud, 'Gadawodd yr ARGLWYDD y wlad; nid yw'r ARGLWYDD yn gweld.'
10
Nid wyf fi am dosturio na thrugarhau; talaf iddynt am eu ffyrdd."
11
A dyna'r dyn oedd wedi ei wisgo lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg, yn dod gair yn l a dweud, "Yr wyf wedi gwneud fel y gorchmynnaist."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau