Gwinwydden doreithiog oedd Israel, a'i ffrwyth yr un fath hi. Fel yr amlhaodd ei ffrwyth, amlhaodd yntau allorau; fel y daeth ei dir yn well, gwnaeth yntau ei golofnau yn well.
Y mae trigolion Samaria yn crynu o achos llo Beth-afen. Y mae ei bobl yn galaru amdano, a'i eilun-offeiriaid yn wylofain amdano, am i'w ogoniant ymadael oddi wrtho.
Distrywir uchelfeydd Beth-afen, pechod Israel; tyf drain a mieri ar eu hallorau; a dywedant wrth y mynyddoedd, "Cuddiwch ni", ac wrth y bryniau, "Syrthiwch arnom".
"Heffer wedi ei thorri i mewn yw Effraim; y mae'n hoff o ddyrnu; gosodaf iau ar ei gwar deg, a rhof Effraim mewn harnais; bydd Jwda yn aredig, a Jacob yn llyfnu iddo.
fe gwyd terfysg ymysg dy bobl, a dinistrir dy holl amddiffynfeydd, fel y dinistriwyd Beth-arbel gan Salman yn nydd rhyfel, a dryllio'r fam gyda'i phlant.