Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Y mae Effraim yn bugeilio gwynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain trwy'r dydd; amlhnt dwyll a thrais; gwnnt gytundeb ag Asyria, a dygant olew i'r Aifft. |
| 2 |
| Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn Jwda; fe gosba Jacob yn l ei ffyrdd, a thalu iddo yn l ei weithredoedd. |
| 3 |
| Yn y groth gafaelodd yn sawdl ei frawd, ac wedi iddo dyfu ymdrechodd Duw. |
| 4 |
| Ymdrechodd 'r angel a gorchfygu; wylodd a cheisiodd ei ffafr. Ym Methel y cafodd ef, a siarad yno ag ef |
| 5 |
| ARGLWYDD Dduw y lluoedd, yr ARGLWYDD yw ei enw. |
| 6 |
| A thithau, trwy nerth dy Dduw, dychwel, cadw deyrngarwch a barn, a disgwyl wrth dy Dduw bob amser. |
| 7 |
| Y mae masnachwr a chanddo gloriannau twyllodrus yn caru gorthrymu. |
| 8 |
| Dywedodd Effraim, "Yn wir, 'rwy'n gyfoethog, ac enillais olud; yn fy holl enillion ni cheir na drygioni na phechod." |
| 9 |
| "Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th ddygodd o wlad yr Aifft; gwnaf iti eto drigo mewn pebyll, fel yn nyddiau'r u373?yl sefydlog. |
| 10 |
| "Lleferais wrth y proffwydi; ac amlheais weledigaethau a dangos gwers trwy'r proffwydi. |
| 11 |
| Am fod eilunod yn Gilead, pethau cwbl ddiddim; am fod aberthu teirw yn Gilgal, bydd eu hallorau fel pentyrrau cerrig ar rychau'r meysydd." |
| 12 |
| Ffodd Jacob i dir Aram; gwasanaethodd Israel am wraig; am wraig y cadwodd ddefaid. |
| 13 |
| Trwy broffwyd y dygodd yr ARGLWYDD Israel o'r Aifft, a thrwy broffwyd y cadwyd ef. |
| 14 |
| Cythruddodd Effraim ef yn chwerw, a bydd i'w Arglwydd ei adael yn ei euogrwydd, a throi ei waradwydd yn l arno. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/hosea/012.mp3
14
12