Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Dychwel, Israel at yr ARGLWYDD dy Dduw, canys syrthiaist oherwydd dy ddrygioni. |
| 2 |
| Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr ARGLWYDD; dywedwch wrtho, "Maddau'r holl ddrygioni, derbyn ddaioni, a rhown i ti ffrwyth ein gwefusau. |
| 3 |
| Ni all Asyria ein hachub, ac ni farchogwn ar geffylau; ac wrth waith ein dwylo ni ddywedwn eto, 'Ein Duw'. Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd." |
| 4 |
| "Iachf eu hanffyddlondeb; fe'u caraf o'm bodd, oherwydd trodd fy llid oddi wrthynt. |
| 5 |
| Byddaf fel gwlith i Israel; blodeua fel lili a lleda'i wraidd fel pren poplys. |
| 6 |
| Lleda'i flagur, a bydd ei brydferthwch fel yr olewydden, a'i arogl fel Lebanon. |
| 7 |
| Dychwelant a thrigo yn fy nghysgod; cynhyrchant u375?d, ffrwythant fel y winwydden, bydd eu harogl fel gwin Lebanon. |
| 8 |
| "Beth sydd a wnelo Effraim mwy ag eilunod? Myfi sydd yn ei ateb ac yn ei arwain yn gywir. Yr wyf fi fel cypreswydden ddeiliog; oddi wrthyf y daw dy ffrwyth." |
| 9 |
| Pwy bynnag sydd ddoeth, dealled hyn; pwy bynnag sydd ddeallgar, gwybydded. Oherwydd y mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn gywir; rhodia'r cyfiawn ynddynt, ond meglir y drygionus ynddynt. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/hosea/014.mp3
14
14