Dadleuwch â'ch mam, dadleuwch: canys nid fy ngwraig yw hi, ac nid ei gŵr hi ydwyf finnau: bwried hithau ymaith ei phuteindra o'i golwg, a'i godineb oddi rhwng ei bronnau;
Canys eu mam hwynt a buteiniodd; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a'u hymddûg hwynt: canys dywedodd hi, Af ar ôl fy nghariadau, y rhai sydd yn rhoi fy mara a'm dwfr, fy ngwlân a'm llin, fy olew a'm diodydd.
A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwedd hwynt; a hi a'u cais hwynt, ond nis caiff: yna y dywed, Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon.
A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a'i ffigyswydd, am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac mi a'u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a'u difa hwynt.
A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim, yn y rhai y llosgodd hi arogl‐darth iddynt, ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a'i thlysau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr ARGLWYDD.
A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o'r fan honno, a dyffryn Achor yn ddrws gobaith; ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuenctid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft.
A'r dydd hwnnw y gwnaf amod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusgiaid y ddaear; a'r bwa, a'r cleddyf, a'r rhyfel, a dorraf ymaith o'r ddaear, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel.
A mi a'i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear, ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd; ac a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi, Fy mhobl wyt ti: a hwythau a ddywedant, O fy NUW.