Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos, a dangos gariad at dy wraig eto, er bod ganddi gariad arall a'i bod yn anffyddlon i ti. Dyna'n union fel mae'r ARGLWYDD yn caru pobl Israel, er eu bod nhw'n troi at eilun-dduwiau ac yn offrymu teisennau ffrwyth melys iddyn nhw.” |
| 2 |
| Felly dyma fi'n mynd a talu un deg pump darn arian a chan cilogram o haidd amdani. |
| 3 |
| A dyma fi'n dweud wrthi, “O hyn allan ti'n mynd i aros gyda mi. Dwyt ti ddim i weithio fel putain na chael rhyw gydag unrhyw ddyn, hyd yn oed gyda fi.” |
| 4 |
| Mae pobl Israel yn mynd i fod am amser hir heb frenin nag arweinydd eu hunain, heb fedru aberthu, heb golofnau cysegredig, heb arweiniad offeiriad nac eilun-ddelwau teuluol. |
| 5 |
| Ond wedyn yn y dyfodol bydd pobl Israel yn troi yn ôl at yr ARGLWYDD eu Duw a'u brenin o deulu Dafydd. Bryd hynny byddan nhw'n plygu i'r ARGLWYDD a'i barchu, ac yn profi eto mor dda ydy e. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/hosea/003.mp3
14
3