Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| “Dewch! Gadewch i ni droi'n ôl at yr ARGLWYDD. Fe sydd wedi'n rhwygo'n ddarnau, ond bydd e'n iacháu! Fe sydd wedi'n hanafu ni, ond bydd e'n gwella'r briwiau! |
| 2 |
| Bydd yn rhoi bywyd newydd i ni mewn ychydig; bydd wedi'n codi ni'n ôl yn fyw mewn dim o bryd. Cawn fyw yn ei gwmni, |
| 3 |
| a'i nabod yn iawn. Gadewch i ni fwrw iddi i gydnabod yr ARGLWYDD. Bydd yn dod allan i'n hachub, mor sicr â bod y wawr yn torri. Bydd yn dod fel glaw y gaeaf neu gawodydd y gwanwyn i ddyfrio'r tir.” |
| 4 |
| O, beth wna i gyda chi, bobl Effraim? Beth wna i gyda chi, bobl Jwda? Mae eich ffyddlondeb fel tarth y bore, neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar. |
| 5 |
| Dyna pam dw i wedi anfon y proffwydi i'ch taro. Dw i'n mynd i'ch lladd chi fel y dwedais wrth gyhoeddi barn. Mae'r farn yn siŵr o ddod, fel golau'r wawr. |
| 6 |
| Ffyddlondeb sy'n fy mhlesio, nid aberthau! Nabod Duw, nid dim ond offrwm i'w losgi. |
| 7 |
| Maen nhw wedi sathru fy ymrwymiad fel Adda! Maen nhw wedi fy mradychu i! |
| 8 |
| Mae Gilead yn dref o bobl ddrwg, ac mae olion traed gwaedlyd yn staen ar ei strydoedd. |
| 9 |
| Mae'r urdd o offeiriaid fel gang o ladron, yn cuddio i ymosod ar bobl — yn llofruddio ar y ffordd i Sichem. Maen nhw'n gwneud cymaint o ddrwg! |
| 10 |
| Dw i wedi gweld pobl Israel yn gwneud pethau cwbl ffiaidd! Mae Effraim yn puteinio — mae Israel wedi ei llygru'n llwyr! |
| 11 |
| Mae cynhaeaf barn yn dod i tithau, Jwda! Dw i eisiau i'm pobl lwyddo eto; |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/hosea/006.mp3
14
6