Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| "At dy wefus 'r utgorn! Y mae un tebyg i eryr yn erbyn tu375?'r ARGLWYDD, am iddynt dorri fy nghyfamod a gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith. |
| 2 |
| Llefant arnaf, 'O Dduw, yr ydym ni, Israel, yn dy adnabod.' |
| 3 |
| Ffieiddiodd Israel ddaioni; bydd gelyn yn ei ymlid yntau. |
| 4 |
| "Gwnaethant frenhinoedd, ond nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, nad oeddwn yn eu hadnabod. 'u harian a'u haur gwnaethant iddynt eu hunain ddelwau, a hynny er distryw. |
| 5 |
| Ffieiddiais dy lo, Samaria; cyneuodd fy llid yn ei erbyn. |
| 6 |
| Pa hyd y methant ymlanhau yn Israel? Crefftwr a'i gwnaeth; nid yw'n dduw. Dryllir llo Samaria yn chwilfriw. |
| 7 |
| "Canys y maent yn hau gwynt, ac yn medi corwynt. Y mae'r corsennau u375?d heb rawn, ni rnt flawd; pe rhoent, estroniaid a'i llyncai. |
| 8 |
| Llyncwyd Israel; y mae eisoes ymysg y cenhedloedd fel llestr diwerth. |
| 9 |
| Aethant i fyny at Asyria, fel asyn gwyllt ar ddisberod. Bargeiniodd Effraim am gariadon; |
| 10 |
| er iddynt fargeinio ymysg y cenhedloedd, fe'u casglaf yn awr, wedi iddynt am ychydig wingo dan y baich, yn frenin a thywysogion. |
| 11 |
| "Amlhaodd Effraim allorau; ond aethant iddo yn allorau i bechu. |
| 12 |
| Er i mi ysgrifennu llawer o ddeddfau, fe'u hystyrir fel peth dieithr. |
| 13 |
| Carant aberthau; aberthant gig a'i fwyta; ond nid yw'r ARGLWYDD yn fodlon arnynt. Yn awr fe gofia eu drygioni, a chosbi eu pechodau; dychwelant i'r Aifft. |
| 14 |
| Canys anghofiodd Israel ei wneuthurwr, ac adeiladodd balasau; lluosogodd Jwda ddinasoedd caerog; ond anfonaf dn ar ei ddinasoedd ac fe ysa ei amddiffynfeydd." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/hosea/008.mp3
14
8