Ni thywalltant win yn offrwm i'r ARGLWYDD, ac ni fodlonir ef 'u haberthau; byddant iddynt fel bara galarwyr, sy'n halogi pawb sy'n ei fwyta. Canys at eu hangen eu hunain y bydd eu bara, ac ni ddaw i du375?'r ARGLWYDD.
Canys wele, ffoant rhag dinistr; bydd yr Aifft yn eu casglu, a Memffis yn eu claddu; bydd danadl yn meddiannu eu trysorau arian, a drain fydd yn eu pebyll.
Daeth dyddiau cosbi, dyddiau i dalu'r pwyth, a darostyngir Israel. "Ffu373?l yw'r proffwyd, gwallgof yw gu373?r yr ysbryd." O achos dy ddrygioni mawr bydd dy elyniaeth yn fawr.
"Fel grawnwin yn yr anialwch y cefais hyd i Israel; fel blaenffrwyth ar ffigysbren newydd y gwelais eich tadau. Ond aethant i Baal-peor, a'u rhoi eu hunain i warth eilun; ac aethant mor ffiaidd gwrthrych eu serch.
"Yn Gilgal y mae eu holl ddrygioni; yno'n wir y rhois fy nghas arnynt. Oherwydd eu gweithredoedd drygionus, gyrraf hwy allan o'm tu375?. Ni charaf hwy ychwaneg; gwrthryfelwyr yw eu holl dywysogion.