O Israel, stopia ddathlu a gweiddi'n llawen fel y paganiaid; ti wedi bod yn anffyddlon i dy Dduw. Ti'n hoffi derbyn cyflog putain wrth ‛addoli‛ ar bob llawr dyrnu!
Fyddan nhw ddim yn gallu tywallt gwin i'r ARGLWYDD, nac offrymu aberthau iddo. Bydd yr aberthau'n aflan, fel bwyd pobl sy'n galaru; bydd pawb sy'n ei fwyta'n cael eu llygru. Bydd eu bwyd i'w boliau'n unig; fydd e ddim yn mynd yn agos i deml yr ARGLWYDD.
Hyd yn oed os byddan nhw'n dianc o'r dinistr, bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw, a Memffis yn eu claddu nhw. Bydd chwyn yn chwennych eu trysorau a mieri'n meddiannu eu tai.
Mae cyfnod y cosbi wedi cyrraedd! Mae dydd y farn wedi dod! Mae'n bryd i Israel wybod! “Mae'r proffwyd yn hurt! Mae'r dyn ysbrydol yn wallgof!” Ti wedi pechu gymaint, ac mor llawn casineb!
Roedd darganfod Israel fel dod o hyd i rawnwin yn yr anialwch. I mi, roedd dy hynafiaid fel y ffrwyth cyntaf i dyfu ar goeden ffigys. Ond dyma nhw'n cyrraedd Baal-peor, a rhoi eu hunain i eilun cywilyddus — cyn pen dim aethon nhw mor ffiaidd â'r eilun roedden nhw'n ei addoli.
“Am wneud yr holl ddrwg yn Gilgal, dw i'n eu casáu nhw. Dw i'n mynd i'w gyrru nhw allan o'm tir o achos eu holl ddrygioni. Dw i ddim yn eu caru nhw bellach; mae eu swyddogion i gyd mor ystyfnig.
Bydd pobl Effraim yn cael eu taro'n galed — mae'r gwreiddyn wedi sychu; a does dim ffrwyth yn tyfu. A hyd yn oed petaen nhw'n cael plant, byddwn i'n lladd eu babis bach del!”