Chwythwch y corn hwrdd yn Seion; Rhybuddiwch bobl o ben y mynydd cysegredig! Dylai pawb sy'n byw yn y wlad grynu mewn ofn, am fod dydd barn yr ARGLWYDD ar fin dod. Ydy, mae'n agos!
Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy; diwrnod o gymylau duon bygythiol. Mae byddin enfawr yn dod dros y bryniau. Does dim byd tebyg wedi digwydd erioed o'r blaen, a welwn ni ddim byd tebyg byth eto.
Mae fflamau tân o'u cwmpas, yn dinistrio popeth sydd yn eu ffordd. Mae'r wlad o'u blaenau yn ffrwythlon fel Gardd Eden, ond tu ôl iddyn nhw mae fel anialwch diffaith. Does dim posib dianc!
Maen nhw'n swnio fel cerbydau rhyfel yn rhuthro dros y bryniau; fel sŵn clecian fflamau'n llosgi bonion gwellt, neu sŵn byddin enfawr yn paratoi i ymosod.
Mae llais yr ARGLWYDD yn taranu wrth iddo arwain ei fyddin. Mae eu niferoedd yn enfawr! Maen nhw'n gwneud beth mae'n ei orchymyn. Ydy, mae dydd yr ARGLWYDD yn ddiwrnod mawr; mae'n ddychrynllyd! — Pa obaith sydd i unrhyw un?
Ond dyma neges yr ARGLWYDD: “Dydy hi ddim yn rhy hwyr. Trowch yn ôl ata i o ddifri. Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau, a galaru am eich ymddygiad.
Rhwygwch eich calonnau, yn lle dim ond rhwygo eich dillad.” Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw! Mae e mor garedig a thrugarog; mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi.
Pwy ŵyr? Falle y bydd e'n drugarog ac yn troi yn ôl. Falle y bydd e'n dewis bendithio o hyn ymlaen! Wedyn cewch gyflwyno offrwm o rawn ac offrwm o ddiod i'r ARGLWYDD eich Duw!
Casglwch y bobl i gyd, a paratoi pawb i ddod at ei gilydd i addoli. Dewch a'r arweinwyr at ei gilydd. Dewch a'r plant yno, a'r babis bach. Dylai hyd yn oed y rhai sydd newydd briodi ddod — does neb i gadw draw!
Dylai'r offeiriaid, y rhai sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD, wylo o'r cyntedd i'r allor, a gweddïo fel hyn: “ARGLWYDD, wnei di faddau i dy bobl? Paid gadael i'r wlad yma droi'n destun sbort. Paid gadael i baganiaid ein llywodraethu ni! Pam ddylai pobl y gwledydd gael dweud, ‘Felly, ble mae eu Duw nhw?’”
Dyma fe'n dweud wrth ei bobl: “Edrychwch! Dw i'n mynd i'ch bendithio chi unwaith eto! Dw i'n mynd i roi cnydau da i chi, a digonedd o sudd grawnwin ac olew olewydd. Bydd gynnoch chi fwy na digon! Fyddwch chi ddim yn destun sbort i'r gwledydd o'ch cwmpas chi.
Bydda i'n gyrru'r un ddaeth o'r gogledd i ffwrdd, ac yn ei wthio i dir sych a diffaith. Bydd yr hanner blaen yn cael eu gyrru i'r Môr Marw yn y dwyrain, a'r hanner ôl yn cael eu gyrru i Fôr y Canoldir yn y gorllewin. Yno y byddan nhw'n pydru, a bydd eu drewdod yn codi.” Ydy, mae e'n gwneud pethau mor wych!
Anifeiliaid gwylltion, peidiwch bod ag ofn! Mae glaswellt yn tyfu eto ar y tir pori, ac mae ffrwythau'n tyfu ar y coed. Mae'r coed ffigys a'r gwinwydd yn llawn ffrwyth.
Dathlwch chithau, bobl Seion! Mwynhewch beth mae Duw wedi ei wneud! Mae wedi rhoi'r glaw cynnar i chi ar yr adeg iawn — rhoi'r glaw cynnar yn yr hydref, a'r glaw diweddar yn y gwanwyn, fel o'r blaen.
Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta. Byddwch chi'n moli'r ARGLWYDD eich Duw, sydd wedi gwneud pethau mor wych ar eich rhan chi. Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.
“Ar ôl hynny, bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo; bydd dynion hŷn yn cael breuddwydion, a dynion ifanc yn cael gweledigaethau.
Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub. Fel mae'r ARGLWYDD wedi addo: “ar Fynydd Seion, sef Jerwsalem, bydd rhai yn dianc.” Bydd rhai o'r bobl yn goroesi — pobl wedi eu galw gan yr ARGLWYDD.