Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud, |
| 2 |
| "Dywed wrth bobl Israel, 'Bydd gwraig sy'n beichiogi ac yn geni mab yn aflan am saith diwrnod, yn union fel y mae'n aflan yn nyddiau ei misglwyf. |
| 3 |
| Ar yr wythfed dydd enwaeder ar y bachgen. |
| 4 |
| Yna bydd y wraig yn disgwyl tri ar ddeg ar hugain o ddyddiau am buro ei gwaed; nid yw i gyffwrdd dim sanctaidd nac i fynd i'r cysegr nes y bydd dyddiau'r puro trosodd. |
| 5 |
| Os bydd yn geni merch, yna bydd yn aflan am bythefnos, fel y mae yn ei misglwyf; bydd yn disgwyl chwech a thrigain o ddyddiau am buro ei gwaed. |
| 6 |
| "'Pan fydd dyddiau'r puro am fab neu ferch trosodd, y mae i ddod at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod gydag oen gwryw yn boethoffrwm a chyw colomen neu durtur yn aberth dros bechod. |
| 7 |
| Bydd yntau'n eu cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD i wneud cymod drosti, ac yna bydd yn ln oddi wrth ei gwaedlif. Dyma'r ddeddf ynglu375?n gwraig yn geni mab neu ferch. |
| 8 |
| "'Os na all fforddio oen, gall ddod dwy durtur neu ddau gyw colomen, y naill yn boethoffrwm a'r llall yn aberth dros bechod; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosti, a bydd yn ln.'" |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/leviticus/012.mp3
27
12