Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses |
| 2 |
| “Dywed wrth bobl Israel: Pan mae gwraig yn cael babi, os mai bachgen ydy'r babi, bydd hi'n aflan am saith diwrnod (fel gyda'r misglwyf). |
| 3 |
| Pan mae'r bachgen yn wythnos oed rhaid iddo fynd trwy'r ddefod o gael ei enwaedu, sef torri blaengroen ei bidyn i ffwrdd. |
| 4 |
| Fydd y wraig ddim yn hollol lân am dri deg tri diwrnod arall. Felly yn ystod y cyfnod yma o gael ei glanhau ddylai hi ddim cyffwrdd unrhyw beth cysegredig na mynd i'r cysegr i addoli. |
| 5 |
| Os mai merch ydy'r babi bydd y fam yn aflan am bythefnos (fel gyda'r misglwyf). A fydd hi ddim yn hollol lân am chwe deg chwech diwrnod arall. |
| 6 |
| “Pan mae'r fam wedi gorffen y cyfnod o gael ei glanhau, rhaid iddi ddod at fynedfa'r Tabernacl, a chyflwyno oen sy'n flwydd oed yn offrwm i'w losgi a cholomen neu durtur yn offrwm i lanhau o bechod. |
| 7 |
| Bydd yr offeiriad yn ei gyflwyno i'r ARGLWYDD ac yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi â Duw. Dyma sydd i ddigwydd pan mae bachgen neu ferch yn cael ei eni. |
| 8 |
| Os ydy'r wraig ddim yn gallu fforddio oen, mae hi'n gallu cyflwyno dwy durtur neu ddwy golomen. Un yn offrwm i'w losgi a'r llall yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi â Duw, a bydd hi'n lân.” |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/leviticus/012.mp3
27
12