×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Lefiticus 15

1
Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud,
2
"Dywedwch wrth bobl Israel, 'Pan fydd gan unrhyw un ddiferlif yn rhedeg o'i gorff, y mae'n aflan.
3
Dyma fydd y gyfraith ynglu375?n 'i aflendid o achos diferlif. Pa un bynnag a yw'n parhau i redeg o'i gorff ynteu a yw wedi ei atal, y mae'n aflendid.
4
"'Y mae unrhyw wely y bu rhywun diferlif yn gorwedd arno yn aflan, ac unrhyw beth y bu'n eistedd arno yn aflan.
5
Y mae unrhyw un a gyffyrddodd 'i wely i olchi ei ddillad, i ymolchi du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr.
6
Y mae'r sawl sy'n eistedd ar unrhyw beth yr eisteddodd y sawl sydd diferlif arno i olchi ei ddillad, i ymolchi du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr.
7
Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd chorff y sawl sydd diferlif arno i olchi ei ddillad, i ymolchi du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr.
8
Os bydd rhywun diferlif arno yn poeri ar unrhyw un gln, y mae hwnnw i olchi ei ddillad, i ymolchi du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr.
9
Y mae unrhyw beth y bu'n eistedd arno wrth farchogaeth yn aflan,
10
a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd ag un o'r pethau oedd dano yn aflan hyd yr hwyr; y mae unrhyw un sy'n eu codi i olchi ei ddillad, i ymolchi du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr.
11
Y mae unrhyw un y cyffyrddodd y sawl sydd diferlif ag ef, heb iddo olchi ei ddwylo mewn du373?r, i olchi ei ddillad, ymolchi du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr.
12
Y mae llestr pridd y cyffyrddodd y dyn diferlif ag ef i'w ddryllio, ac unrhyw declyn pren i'w olchi du373?r.
13
"'Pan fydd rhywun yn cael ei lanhau o'i ddiferlif, y mae i gyfrif saith diwrnod ar gyfer ei lanhau; y mae i olchi ei ddillad, ac ymolchi du373?r croyw, a bydd yn ln.
14
Ar yr wythfed dydd y mae i gymryd dwy durtur neu ddau gyw colomen, a dod o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod, a'u rhoi i'r offeiriad.
15
Bydd yr offeiriad yn offrymu'r naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ac yn gwneud cymod o flaen yr ARGLWYDD dros y sawl oedd diferlif.
16
"'Pan fydd dyn yn gollwng ei had, y mae i olchi ei holl gorff du373?r, a bod yn aflan hyd yr hwyr.
17
Y mae unrhyw ddilledyn neu ddeunydd lledr yr aeth yr had arno i'w olchi du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr.
18
Pan fydd dyn yn gorwedd gyda gwraig ac yn gollwng had, y maent i ymolchi du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr.
19
"'Pan fydd gan wraig ddiferlif gwaed, sef misglwyf rheolaidd ei chorff, y mae'n amhur am saith diwrnod, a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd hi yn aflan hyd yr hwyr.
20
Y mae unrhyw beth y mae'n gorwedd arno yn ystod ei misglwyf yn aflan, a hefyd unrhyw beth y mae'n eistedd arno.
21
Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd 'i gwely i olchi ei ddillad, i ymolchi du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr.
22
Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd 'r hyn yr eistedd y wraig arno i olchi ei ddillad, i ymolchi du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr;
23
boed yn wely neu'n unrhyw beth y mae'n eistedd arno, pan fydd unrhyw un yn ei gyffwrdd, bydd yn aflan hyd yr hwyr.
24
Os bydd dyn yn gorwedd gyda hi, a'i misglwyf yn cyffwrdd ag ef, y mae yntau'n aflan am saith diwrnod, ac y mae unrhyw wely y gorwedd arno yn aflan.
25
"'Pan fydd gan wraig ddiferlif gwaed am lawer o ddyddiau heblaw ar adeg ei misglwyf, neu pan fydd y diferlif yn parhau ar l ei misglwyf, bydd yn aflan cyhyd ag y pery'r diferlif, fel ar adeg ei misglwyf.
26
Y mae unrhyw wely y mae'n gorwedd arno tra pery ei diferlif yn aflan, fel y mae ei gwely yn ystod ei misglwyf, ac y mae unrhyw beth y mae'n eistedd arno yn aflan, fel y mae yn ystod ei misglwyf.
27
Y mae unrhyw un sy'n eu cyffwrdd yn aflan, ac y mae i olchi ei ddillad, i ymolchi du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr.
28
"'Pan fydd yn cael ei glanhau o'i diferlif, y mae i gyfrif saith diwrnod, ac ar l hynny bydd yn ln.
29
Ar yr wythfed dydd y mae i gymryd dwy durtur neu ddau gyw colomen, a dod hwy at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod.
30
Bydd yr offeiriad yn offrymu'r naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ac yn gwneud cymod drosti o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd amhuredd ei diferlif.
31
"'Yr ydych i gadw pobl Israel oddi wrth eu haflendid, rhag iddynt farw yn eu haflendid am iddynt halogi fy nhabernacl sydd yn eu mysg.'"
32
Dyma'r gyfraith ynglu375?n diferlif, y dyn sy'n dod yn aflan trwy ollwng ei had,
33
a'r wraig sy'n dioddef o'i misglwyf, sef dyn neu wraig diferlif, a hefyd dyn sy'n gorwedd gyda gwraig sy'n aflan.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau