Os bydd unrhyw un yn rhy dlawd i dalu'r gwerth, y mae i ddod 'r person at yr offeiriad, a bydd yntau'n pennu ei werth yn l yr hyn y gall y sawl sy'n addunedu ei fforddio; yr offeiriad fydd yn pennu'r gwerth.
"'Os bydd rhywun yn cysegru ei du375? yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, bydd yr offeiriad yn pennu ei werth, pa un ai da ai drwg ydyw; y gwerth a rydd yr offeiriad arno fydd yn sefyll.
"'Os bydd rhywun am gysegru i'r ARGLWYDD ran o dir ei etifeddiaeth, mesurir ei werth yn l yr had ar ei gyfer, sef hanner can sicl o arian ar gyfer pob homer o haidd.
Ond os bydd yn ei gysegru ar l y jwbili, bydd yr offeiriad yn amcangyfrif ei bris yn l y blynyddoedd sy'n weddill hyd y jwbili nesaf, a bydd ei werth yn gostwng.
bydd yr offeiriad yn amcangyfrif ei werth hyd flwyddyn y jwbili, a bydd y sawl sy'n ei gysegru yn rhoi ei werth y diwrnod hwnnw, a bydd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
Er hynny, ni ellir gwerthu na rhyddhau unrhyw eiddo, boed ddyn, anifail, neu dir sy'n etifeddiaeth, os yw wedi ei gyflwyno'n ddiofryd i'r ARGLWYDD; y mae unrhyw ddiofryd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.