Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Yna y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a'i feibion, a henuriaid Israel; |
| 2 |
| Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymer i ti lo ieuanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, o rai perffaith‐gwbl, a dwg hwy gerbron yr ARGLWYDD. |
| 3 |
| Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, blwyddiaid, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm; |
| 4 |
| Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu gerbron yr ARGLWYDD; a bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd heddiw yr ymddengys yr ARGLWYDD i chwi. |
| 5 |
| A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod: a'r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant gerbron yr ARGLWYDD. |
| 6 |
| A dywedodd Moses, Dyma'r peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr ARGLWYDD i chwi. |
| 7 |
| Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD. |
| 8 |
| Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun. |
| 9 |
| A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a'i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor. |
| 10 |
| Ond efe a losgodd ar yr allor o'r aberth dros bechod y gwêr a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses. |
| 11 |
| A'r cig a'r croen a losgodd efe yn tân, o'r tu allan i'r gwersyll. |
| 12 |
| Ac efe a laddodd y poethoffrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch. |
| 13 |
| A dygasant y poethoffrwm ato, gyda'i ddarnau, a'i ben hefyd; ac efe a'u llosgodd hwynt ar yr allor. |
| 14 |
| Ac efe a olchodd y perfedd a'r traed, ac a'u llosgodd hwynt ynghyd â'r offrwm poeth ar yr allor. |
| 15 |
| Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a'i lladdodd, ac a'i hoffrymodd dros bechod, fel y cyntaf. |
| 16 |
| Ac efe a ddug y poethoffrwm, ac a'i hoffrymodd yn ôl y ddefod. |
| 17 |
| Ac efe a ddug y bwyd‐offrwm: ac a lanwodd ei law ohono, ac a'i llosgodd ar yr allor, heblaw poethoffrwm y bore. |
| 18 |
| Ac efe a laddodd y bustach a'r hwrdd, yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch. |
| 19 |
| Dygasant hefyd wêr y bustach a'r hwrdd, y gloren, a'r weren fol, a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu. |
| 20 |
| A gosodasant y gwêr ar y parwydennau; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor. |
| 21 |
| Y parwydennau hefyd, a'r ysgwyddog ddeau, a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD; fel y gorchmynnodd Moses. |
| 22 |
| A chododd Aaron ei law tuag at y bobl, ac a'u bendithiodd; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod, a'r poethoffrwm, a'r ebyrth hedd. |
| 23 |
| A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl: a gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd i'r holl bobl. |
| 24 |
| A daeth tân allan oddi gerbron yr ARGLWYDD, ac a ysodd y poethoffrwm, a'r gwêr, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwaeddasant, a chwympasant ar eu hwynebau. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/leviticus/009.mp3
27
9