Clywch y gair hwn, fuchod Basan, sydd ym mynydd Samaria, sy'n gorthrymu'r tlawd ac yn treisio'r anghenus, sy'n dweud wrth eu gwu375?r, "Dewch gwin, inni gael yfed":
offrymwch aberth diolch o fara lefeinllyd, cyhoeddwch aberthau gwirfodd, a gwnewch hwy'n hysbys; canys hyn a hoffwch, bobl Israel," medd yr Arglwydd DDUW.
"Myfi hefyd a ataliodd y glaw oddi wrthych, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf; rhoddais law ar un ddinas, a'i atal oddi ar un arall; glawiodd ar un cae, a gwywodd y cae na chafodd law;
"Trewais chwi malltod a llwydni; difeais eich gerddi a'ch gwinllannoedd; bwytaodd y locust eich coed ffigys a'ch olewydd; er hynny ni throesoch yn l ataf," medd yr ARGLWYDD.
"Anfonais arnoch haint fel haint yr Aifft; lleddais eich llanciau 'r cleddyf, a chaethgludo eich meirch; gwneuthum i ddrewdod eich gwersyll godi i'ch ffroenau; er hynny ni throesoch yn l ataf," medd yr ARGLWYDD.
"Dymchwelais chwi, fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra, ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei gipio o'r tn; er hynny ni throesoch yn l ataf," medd yr ARGLWYDD.
Wele, lluniwr y mynyddoedd a chrwr y gwynt, yr un sy'n mynegi ei feddwl i ddynolryw, yr un sy'n gwneud y bore'n dywyllwch, ac yn cerdded uchelderau'r ddaear yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, yw ei enw.