Gwae y rhai sydd mewn esmwythyd yn Seion, y rhai sy'n teimlo'n ddiogel ar Fynydd Samaria, gwu375?r mawr y genedl bennaf, y rhai y mae tu375? Israel yn troi atynt.
Ewch trosodd i Calne ac edrychwch; oddi yno ewch i Hamath fawr, ac yna i lawr i Gath y Philistiaid. A ydynt yn well na'ch teyrnasoedd chwi? A yw eu tiriogaeth yn fwy na'r eiddoch chwi?
Tyngodd yr Arglwydd DDUW iddo'i hun; medd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd: "Yr wyf yn ffieiddio balchder Jacob, ac yn casu ei geyrydd; gadawaf y ddinas a phopeth sydd ynddi."
Pan ddaw perthynas, sydd am losgi un ohonynt, yno i'w godi a dwyn ei gorff allan o'r tu375?, a dweud wrth un sydd yng nghanol y tu375?, "A oes rhywun gyda thi?" fe ddywed yntau, "Nac oes." Yna fe ddywed, "Taw! Nid yw enw'r ARGLWYDD i'w grybwyll."