Gwae chi sydd mor gyfforddus yn Seion, ac yn teimlo mor saff ar fryniau Samaria! Chi bobl bwysig y genedl sbesial ma — ie, chi mae pobl Israel yn troi atyn nhw am arweiniad.
Dych chi'n dweud wrthyn nhw, “Ewch draw i ddinas Calne, i weld sut mae pethau yno! Ewch yn eich blaen wedyn i Chamath fawr, ac i lawr i Gath y Philistiaid. Ydy pethau'n well arnyn nhw nag ar y ddwy wlad yma? Oes ganddyn nhw fwy o dir na chi?”
Druan ohonoch chi, sy'n diogi ar eich soffas ifori moethus. Yn gorweddian ar glustogau cyfforddus, ac yn mwynhau gwledda ar gig oen a'r cig eidion gorau.
Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn tyngu iddo'i hun: “Dw i'n casáu balchder gwlad Jacob, ac yn ffieiddio ei phlastai. Bydda i'n cyhoeddi y bydd dinas Samaria a'i phobl yn cael eu rhoi yn llaw'r gelyn.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus.
Yna bydd perthynas yn dod i gasglu'r cyrff o'r tŷ — gyda'r bwriad o'u llosgi. A bydd yn galw ar rywun sy'n cuddio yng nghefn y tŷ, “Oes unrhyw un arall yn fyw ond ti?” ac yn cael yr ateb, “Na, neb.” Yna bydd yn dweud, “Ust! paid hyd yn oed â dweud enw'r ARGLWYDD”.
Ydy ceffylau'n gallu carlamu dros greigiau mawrion? Ydy'n bosib ei aredig hefo ychen? Ac eto dych chi wedi troi cyfiawnder yn wenwyn marwol ac wedi gwneud yr hyn sy'n iawn yn beth chwerw.
Ond gwylia di, wlad Israel, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus. Dw i'n codi cenedl i ymladd yn dy erbyn di. Bydd yn dy ormesu di o Fwlch Chamath yn y gogledd i Wadi'r Araba lawr yn y de!