Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Yna gweddodd Jona ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn a dweud, |
| 2 |
| "Gelwais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac atebodd fi; o ddyfnder Sheol y gwaeddais, a chlywaist fy llais. |
| 3 |
| Teflaist fi i'r dyfnder, i eigion y mr, a'r llanw yn f'amgylchu; yr oedd dy holl donnau a'th lifeiriant yn mynd dros fy mhen. |
| 4 |
| Yna dywedais, 'Fe'm gyrrwyd allan o'th olwg di; sut y caf edrych eto ar dy deml sanctaidd?' |
| 5 |
| Caeodd y dyfroedd amdanaf, a'r dyfnder o'm cwmpas; clymodd y gwymon am fy mhen wrth wreiddiau'r mynyddoedd; |
| 6 |
| euthum i lawr i'r wlad y caeodd ei bolltau arnaf am byth. Eto, dygaist fy mywyd i fyny o'r pwll, O ARGLWYDD fy Nuw. |
| 7 |
| Pan deimlais fy hun yn llewygu, cofiais am yr ARGLWYDD, a daeth fy ngweddi atat i'th deml sanctaidd. |
| 8 |
| Y mae'r rhai sy'n addoli eilunod gwag yn gwadu eu teyrngarwch. |
| 9 |
| Ond aberthaf i ti chn o ddiolch. Talaf yr hyn a addunedais; i'r ARGLWYDD y perthyn gwaredu." |
| 10 |
| A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, a chwydodd yntau Jona ar y lan. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/jonah/002.mp3
4
2