Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dyma Jona yn gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn. |
| 2 |
| Roeddwn i mewn trafferthion, a dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD, a dyma fe'n fy ateb i. Dyma fi'n gweiddi am dy help di, o ganol byd y meirw, a dyma ti'n gwrando arna i! |
| 3 |
| Teflaist fi i'r dyfnder; i waelod y môr. Roedd y cerrynt o'm cwmpas, a'r tonnau mawr yn torri uwch fy mhen. |
| 4 |
| Ro'n i'n meddwl fy mod i wedi cael fy ysgubo i ffwrdd gen ti am byth, ac y byddwn i byth yn cael gweld dy deml sanctaidd di eto! |
| 5 |
| Roeddwn i bron boddi — roedd y môr dwfn o'm cwmpas, a gwymon wedi lapio am fy mhen. |
| 6 |
| Roeddwn i wedi suddo at waelod isa'r mynyddoedd. Roedd giatiau Byd y Meirw wedi cloi tu ôl i mi am byth. Ond dyma ti, ARGLWYDD Dduw, yn fy achub i o'r Pwll dwfn. |
| 7 |
| Pan oedd fy mywyd yn llithro i ffwrdd, dyma fi'n galw arnat ti, ARGLWYDD; a dyma ti'n gwrando ar fy ngweddi o dy deml sanctaidd. |
| 8 |
| Mae'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth yn troi cefn ar dy drugaredd di. |
| 9 |
| Ond dw i'n mynd i offrymu aberth i ti, a chanu mawl i ti'n gyhoeddus. Bydda i'n gwneud beth dw i wedi ei addo! Yr ARGLWYDD ydy'r un sy'n achub! |
| 10 |
| Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y pysgodyn am chwydu Jona ar dir sych. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/jonah/002.mp3
4
2