Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| A Jona a weddïodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW o fol y pysgodyn, |
| 2 |
| Ac a ddywedodd, O'm hing y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a'm hatebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef. |
| 3 |
| Ti a'm bwriaist i'r dyfnder, i ganol y môr; a'r llanw a'm hamgylchodd: dy holl donnau a'th lifeiriaint a aethant drosof. |
| 4 |
| A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua'th deml sanctaidd. |
| 5 |
| Y dyfroedd a'm hamgylchasant hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o'm hamgylch; ymglymodd yr hesg am fy mhen. |
| 6 |
| Disgynnais i odre'r mynyddoedd; y ddaear a'i throsolion oedd o'm hamgylch yn dragywydd: eto ti a ddyrchefaist fy einioes o'r ffos, O ARGLWYDD fy NUW. |
| 7 |
| Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr ARGLWYDD; a'm gweddi a ddaeth i mewn atat i'th deml sanctaidd. |
| 8 |
| Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun. |
| 9 |
| A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf yr hyn a addunedais. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD. |
| 10 |
| A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/jonah/002.mp3
4
2