Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jona yr eildro a dweud, |
| 2 |
| "Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara wrthi y neges a ddywedaf fi wrthyt." |
| 3 |
| Cododd Jona a mynd i Ninefe yn l gair yr ARGLWYDD. Yr oedd Ninefe'n ddinas fawr iawn, yn daith tridiau ar ei thraws. |
| 4 |
| Yna dechreuodd Jona fynd trwy'r ddinas, ac wedi mynd daith un diwrnod cyhoeddodd, "Ymhen deugain diwrnod fe ddymchwelir Ninefe." |
| 5 |
| Credodd pobl Ninefe yn Nuw, a chyhoeddasant ympryd a gwisgo sachliain, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt. |
| 6 |
| A phan ddaeth y newydd at frenin Ninefe, cododd yntau oddi ar ei orsedd, a diosg ei fantell a gwisgo sachliain ac eistedd mewn lludw. |
| 7 |
| Gwnaeth broclamasiwn a'i gyhoeddi yn Ninefe: "Trwy orchymyn y brenin a'i uchelwyr: "Na fydded i ddyn nac anifail, gwartheg na defaid, brofi dim; na fydded iddynt fwyta nac yfed. |
| 8 |
| Bydded iddynt wisgo sachliain a galw yn daer ar Dduw. Bydded i bob un droi oddi wrth ei ffordd ddrygionus ac oddi wrth y trais sydd ar ei ddwylo. |
| 9 |
| Pwy a u373?yr na fydd Duw yn edifarhau eto, ac yn troi oddi wrth ei ddig mawr, fel na'n difethir ni?" |
| 10 |
| Pan welodd Duw beth a wnaethant, a'u bod wedi troi o'u ffyrdd drygionus, edifarhaodd am y drwg y bwriadodd ei wneud iddynt, ac nis gwnaeth. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/jonah/003.mp3
4
3