Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jona unwaith eto. |
| 2 |
| “Dos i ddinas fawr Ninefe ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi'r neges dw i'n ei rhoi i ti.” |
| 3 |
| Y tro yma dyma Jona'n gwneud hynny, fel roedd yr ARGLWYDD eisiau, a mynd yn syth i Ninefe. (Roedd Ninefe yn ddinas anferth. Roedd hi'n cymryd tri diwrnod i gerdded trwyddi!) |
| 4 |
| Ar ôl cerdded trwyddi am ddiwrnod, dyma Jona'n cyhoeddi, “Mewn pedwar deg diwrnod bydd dinas Ninefe yn cael ei dinistrio!” |
| 5 |
| Dyma bobl Ninefe yn credu neges Duw. A dyma nhw'n galw ar bawb i ymprydio (sef peidio bwyta) ac i wisgo sachliain — y bobl gyfoethog a'r tlawd. |
| 6 |
| Pan glywodd brenin Ninefe am y peth, dyma fe hyd yn oed yn codi o'i orsedd, tynnu ei wisg frenhinol i ffwrdd, rhoi sachliain amdano, ac eistedd mewn lludw. |
| 7 |
| [7-8] Wedyn dyma fe'n gwneud datganiad cyhoeddus: “Dyma mae'r brenin a'i swyddogion yn ei orchymyn: Does neb o bobl Ninefe i fwyta nac yfed (na'r anifeiliaid chwaith — gwartheg na defaid.) Rhaid i bawb wisgo sachliain. A dylid hyd yn oed rhoi sachliain ar yr anifeiliaid. Mae pawb i weddïo'n daer ar Dduw, a stopio gwneud drwg a bod mor greulon. |
| 8 |
| 9 |
| Pwy a ŵyr? Falle y bydd Duw yn newid ei feddwl ac yn stopio bod mor ddig gyda ni, a bydd dim rhaid i ni farw.” |
| 10 |
| Pan welodd Duw eu bod nhw wedi stopio gwneud y pethau drwg roedden nhw'n arfer eu gwneud, wnaeth e ddim eu cosbi nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud cyn hynny. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/jonah/003.mp3
4
3