Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Yr oedd Jona'n anfodlon iawn am hyn, a theimlai'n ddig. |
| 2 |
| Yna gweddodd ar yr ARGLWYDD a dweud, "Yn awr, ARGLWYDD, onid hyn a ddywedais pan oeddwn gartref? Dyna pam yr achubais y blaen trwy ffoi i Tarsis. Gwyddwn dy fod yn Dduw graslon a thrugarog, araf i ddigio, mawr o dosturi ac yn edifar ganddo wneud niwed. |
| 3 |
| Yn awr, ARGLWYDD, cymer fy mywyd oddi arnaf; gwell gennyf farw na byw." |
| 4 |
| Atebodd Duw, "A yw'n iawn iti deimlo'n ddig?" |
| 5 |
| Aeth Jona allan ac aros i'r dwyrain o'r ddinas. Gwnaeth gaban iddo'i hun yno, ac eistedd yn ei gysgod i weld beth a ddigwyddai i'r ddinas. |
| 6 |
| A threfnodd yr ARGLWYDD Dduw i blanhigyn dyfu dros Jona i fod yn gysgod dros ei ben ac i leddfu ei drallod; ac yr oedd Jona'n falch iawn o'r planhigyn. |
| 7 |
| Ond gyda'r wawr drannoeth, trefnodd Duw i bryfyn nychu'r planhigyn, nes iddo grino. |
| 8 |
| A phan gododd yr haul trefnodd Duw wynt poeth o'r dwyrain, ac yr oedd yr haul yn taro ar ben Jona nes iddo lewygu; gofynnodd am gael marw, a dweud, "Gwell gennyf farw na byw." |
| 9 |
| A gofynnodd Duw i Jona, "A yw'n iawn iti deimlo'n ddig o achos y planhigyn?" Atebodd yntau, "Y mae'n iawn imi deimlo'n ddig hyd angau." |
| 10 |
| Dywedodd Duw, "Yr wyt ti'n tosturio wrth blanhigyn na fuost yn llafurio gydag ef nac yn ei dyfu; mewn noson y daeth, ac mewn noson y darfu. |
| 11 |
| Oni thosturiaf finnau wrth Ninefe, y ddinas fawr, lle mae mwy na chant ac ugain o filoedd o bobl sydd heb wybod y gwahaniaeth rhwng y llaw chwith a'r llaw dde, heb sn am lu o anifeiliaid?" |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/jonah/004.mp3
4
4