Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sy'n arwain fy mhobl ar gyfeiliorn, y rhai os cnt rywbeth i'w fwyta sy'n cyhoeddi heddwch, ond pan na rydd neb ddim iddynt sy'n cyhoeddi rhyfel yn ei erbyn:
"Am hyn bydd yn nos heb weledigaeth arnoch, ac yn dywyllwch heb ddim dewiniaeth; bydd yr haul yn machlud ar y proffwydi, a'r dydd yn tywyllu o'u cwmpas."
Y mae ei phenaethiaid yn barnu yn l y tl, ei hoffeiriaid yn cyfarwyddo yn l y wobr, ei phroffwydi yn cyflwyno neges yn l yr arian; ac eto, pwysant ar yr ARGLWYDD, a dweud, "Onid yw'r ARGLWYDD yn ein mysg? Ni ddaw drwg arnom."