Dw i mor ddigalon! Dw i fel rhywun yn chwilio'n daer am ffrwyth ar ôl i'r ffrwythau haf a'r grawnwin gael eu casglu. Does dim un swp o rawnwin ar ôl, na'r ffigys cynnar dw i mor hoff ohonyn nhw.
Does neb caredig a hael ar ôl yn y wlad! Mae'r bobl onest i gyd wedi mynd. Mae pawb yn edrych am gyfle i ymosod ar rywun arall; maen nhw fel helwyr yn gosod trapiau i'w gilydd.
Maen nhw'n rai da am wneud drwg! — mae arweinwyr a barnwyr yn derbyn breib; does ond rhaid i'r pwysigion ddweud beth maen nhw eisiau a byddan nhw'n dyfeisio rhyw sgam i'w bodloni.
Mae'r gorau ohonyn nhw fel drain, a'r mwya gonest fel llwyn o fieri. Mae'r gwylwyr wedi'ch rhybuddio; mae dydd y farn yn dod ar frys — mae anhrefn llwyr ar ei ffordd!
Fydd mab ddim yn parchu ei dad, a bydd merch yn herio ei mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith — eich gelynion pennaf fydd eich teulu agosaf!
Rhaid i mi oddef cosb yr ARGLWYDD am fy mod wedi pechu yn ei erbyn. Ond yna bydd e'n ochri gyda mi ac yn ennill yr achos ar fy rhan. Bydd yn fy arwain i allan i'r golau; bydda i'n cael fy achub ganddo.
Bydd fy ngelynion yn gweld hyn, a byddan nhw'n profi siom ac embaras. Fi fydd yn dathlu, wrth eu gweld nhw, y rhai oedd yn dweud, ‘Ble mae dy Dduw di?’, yn cael eu sathru fel baw ar y strydoedd.”
Diwrnod pan fydd pobl yn dod atat yr holl ffordd o Asyria i drefi'r Aifft, o'r Aifft i'r Afon Ewffrates, o un arfordir i'r llall, ac o'r mynyddoedd pellaf.
ARGLWYDD, tyrd i fugeilio dy bobl, dy braidd arbennig dy hun; y rhai sy'n byw'n unig mewn tir llawn drysni tra mae porfa fras o'u cwmpas. Gad iddyn nhw bori ar gaeau Bashan a Gilead, fel roedden nhw'n gwneud ers talwm.
Byddan nhw'n llyfu'r llwch fel nadroedd neu bryfed yn llusgo ar y llawr. Byddan nhw'n ofni am eu bywydau, ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau i dy wynebu di, yr ARGLWYDD ein Duw.
Oes duw tebyg i ti? — Na! Ti'n maddau pechod ac yn anghofio gwrthryfel y rhai sydd ar ôl o dy bobl. Dwyt ti ddim yn digio am byth; rwyt wrth dy fodd yn bod yn garedig a hael.