Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Daeth dinistrydd i fyny yn dy erbyn; diogela'r amddiffynfa, gwylia'r ffordd, rhwyma dy wregys, a chasgla dy nerth ynghyd. |
| 2 |
| Y mae'r ARGLWYDD yn adfer gogoniant Jacob, a gogoniant Israel yr un modd, er i'r anrheithwyr eu difetha a dinoethi eu canghennau. |
| 3 |
| Y mae tarian ei ryfelwyr yn goch, a'r milwyr mewn ysgarlad, a'i gerbydau yn eu rhengoedd yn fflachio fel tn, a'r gwu375?r meirch yn prancio. |
| 4 |
| Rhuthra'r cerbydau trwy'r strydoedd, a gweu trwy'i gilydd yn y mannau agored; fflachiant fel ffaglau, gwibiant fel mellt. |
| 5 |
| Gelwir y glewion i'r frwydr, baglant hwythau wrth ddod; brysiant at y mur, a pharatoir yr amddiffyn. |
| 6 |
| Agorir llifddorau'r afonydd, ac y mae'r plas mewn dychryn; |
| 7 |
| dygir y frenhines ymaith i gaethglud, a'i morynion yn galaru, yn cwyno fel colomennod ac yn curo dwyfron. |
| 8 |
| Y mae Ninefe fel llyn a'i ddyfroedd yn diflannu. "Aros! Aros!" meddant, ond nid yw neb yn troi'n l. |
| 9 |
| Ysbeiliwch yr arian! Ysbeiliwch yr aur! Nid oes terfyn ar y trysor, nac ar y cyfoeth o bethau dymunol. |
| 10 |
| Wedi ei hysbeilio, ei hanrheithio a'i dinoethi, pob calon yn toddi, pob glin yn gwegian, y llwynau'n crynu, ac wyneb pawb yn gwelwi! |
| 11 |
| Ple mae ffau'r llew ac ogof y llewod ifainc, cynefin y llew a'r llewes, lle triga'r cenawon heb eu tarfu? |
| 12 |
| Darniodd y llew ddigon i'w genawon, a lladd ar gyfer ei lewesau; llanwodd ei ogofeydd ag ysglyfaeth, a'i loches 'i raib. |
| 13 |
| "Wele fi yn dy erbyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd. "Llosgaf dy ffau mewn mwg, ac ysa'r cleddyf dy genawon; torraf ymaith dy ysbail o'r tir, ac ni chlywir mwyach sn am dy weithredoedd." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/nahum/002.mp3
3
2