Am hynny, 'r gyfraith yn ddi-rym, ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo; yn wir y mae'r drygionus yn amgylchu'r cyfiawn, a daw cyfiawnder allan yn wyrgam.
"Edrychwch ymysg y cenhedloedd, a sylwch; rhyfeddwch, a byddwch wedi'ch syfrdanu; oherwydd yn eich dyddiau chwi yr wyf yn gwneud gwaith na choeliech, pe dywedid wrthych.
Y mae eu meirch yn gyflymach na'r llewpard, yn ddycnach na bleiddiaid yr hwyr, ac yn ysu am fynd. Daw ei farchogion o bell, yn ehedeg fel fwltur yn brysio at ysglyfaeth.
Ti, sydd 'th lygaid yn rhy bur i edrych ar ddrwg, ac na elli oddef camwri, pam y goddefi bobl dwyllodrus, a bod yn ddistaw pan fydd y drygionus yn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun?