Dw i'n mynd i sefyll ar y tŵr gwylio, ac edrych allan o wal y ddinas. Disgwyl i weld beth fydd Duw yn ei ddweud, a sut fydd e'n ateb y gŵyn sydd gen i.”
Mae'n weledigaeth o beth sy'n mynd i ddigwydd; mae'n dangos sut fydd pethau yn y diwedd. Os nad ydy e'n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar — mae'n siŵr o ddod ar yr amser iawn.
Bydd gwin ei lwyddiant yn achos cwymp i'r gelyn balch, anfodlon. Mae ganddo chwant bwyd fel y bedd; fel marwolaeth, dydy e byth yn fodlon. Dyna pam mae'r gelyn yn casglu ac yn concro un wlad ar ôl y llall.
Bydd y gwledydd hynny yn ei wawdio ryw ddydd! Byddan nhw'n gwneud hwyl am ei ben ar gân! — ‘Gwae'r un sy'n cymryd eiddo oddi ar bobl! (Am faint mae hyn i ddigwydd?) Gwneud ei hun yn gyfoethog trwy elwa ar draul eraill!’
Am dy fod ti wedi dwyn oddi ar lawer o wledydd, bydd y rhai sydd ar ôl yn dwyn oddi arnat ti. Bydd hyn yn digwydd am dy fod wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd.
Gwae chi sydd wedi ennill cyfoeth i'ch teulu drwy fanteisio'n annheg ar bobl eraill. Chi sydd wedi gwneud yn siŵr fod eich nyth eich hunain yn saff — yn uchel, allan o gyrraedd unrhyw berygl.
Byddi di'n feddw o gywilydd, nid mawredd! Dy dro di i oryfed a dangos dy rannau preifat. Mae cwpan digofaint yr ARGLWYDD yn dod i ti! Byddi'n chwydu cywilydd yn lle brolio dy ysblander mawreddog!
Byddi'n talu am ddinistrio coedwigoedd Libanus! Byddi'n dychryn am dy fywyd am i ti ladd yr holl fywyd gwyllt yno; am dy fod ti wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd.
Ydy delw wedi ei gerfio o unrhyw werth? Neu eilun o fetel sy'n camarwain pobl? Pam fyddai'r crefftwr wnaeth ei lunio yn ei drystio? Rhyw ‛dduw‛ diwerth sydd ddim yn gallu siarad!
Gwae'r un sy'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Deffra!’ neu wrth garreg fud, ‘Gwna rywbeth!’ Ydy peth felly'n gallu rhoi arweiniad? Mae wedi ei orchuddio'n grand gydag aur neu arian, ond does dim bywyd ynddo!