Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Gweddi Habacuc y proffwyd, ar Sigionoth. |
| 2 |
| Clywais, O ARGLWYDD, dy air, ac ofnais: O ARGLWYDD, bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd. |
| 3 |
| DUW a ddaeth o Teman, a'r Sanctaidd o fynydd Paran. Sela. Ei ogoniant a dodd y nefoedd, a'r ddaear a lanwyd o'i fawl. |
| 4 |
| A'i lewyrch oedd fel goleuni: yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o'i law; ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder. |
| 5 |
| Aeth yr haint o'i flaen ef, ac aeth marwor tanllyd allan wrth ei draed ef. |
| 6 |
| Safodd, a mesurodd y ddaear; edrychodd, a gwasgarodd y cenhedloedd: y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd, a'r bryniau oesol a grymasant: llwybrau tragwyddol sydd iddo. |
| 7 |
| Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan: crynodd llenni tir Midian. |
| 8 |
| A sorrodd yr ARGLWYDD wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth? |
| 9 |
| Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd. |
| 10 |
| Y mynyddoedd a'th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel. |
| 11 |
| Yr haul a'r lleuad a safodd yn eu preswylfa; wrth oleuad dy saethau yr aethant, ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair. |
| 12 |
| Mewn llid y cerddaist y ddaear, a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter. |
| 13 |
| Aethost allan er iachawdwriaeth i'th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â'th eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Sela. |
| 14 |
| Trywenaist ben ei faestrefydd â'i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i'm gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch. |
| 15 |
| Rhodiaist â'th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion. |
| 16 |
| Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i'm hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a'u difetha hwynt â'i fyddinoedd. |
| 17 |
| Er i'r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a'r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o'r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai: |
| 18 |
| Eto mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD; byddaf hyfryd yn NUW fy iachawdwriaeth. |
| 19 |
| Yr ARGLWYDD DDUW yw fy nerth, a'm traed a wna efe fel traed ewigod; ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I'r pencerdd ar fy offer tannau. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/habakkuk/003.mp3
3
3