Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei chanol yn gyfiawn; nid yw'n gwneud cam; fore ar l bore y mae'n traddodi barn heb ballu ar doriad y dydd; ond ni u373?yr yr anghyfiawn gywilydd.
"Torrais ymaith genhedloedd, ac y mae eu tyrau'n garnedd; gwneuthum eu strydoedd yn ddiffeithwch nad eir trwyddo; anrheithiwyd eu dinasoedd, heb bobl, heb drigiannydd.
Dywedais, 'Bydd yn sicr o'm hofni a derbyn cyngor, ac ni chyll olwg ar y cyfan a ddygais arni.' Ond yr oeddent yn eiddgar i lygru eu holl weithredoedd.
"Felly, disgwyliwch amdanaf," medd yr ARGLWYDD, "am y dydd y codaf yn dyst i'ch erbyn; oherwydd fy mwriad yw casglu cenhedloedd a chynnull teyrnasoedd, i dywallt fy nicter arnynt, holl gynddaredd fy llid; oherwydd thn fy llid yr ysir yr holl dir.
"Ar y dydd hwnnw ni'th waradwyddir am dy holl waith yn gwrthryfela i'm herbyn; oherwydd symudaf o'th blith y rhai sy'n ymhyfrydu mewn balchder, ac ni fyddi byth mwy'n ymddyrchafu yn fy mynydd sanctaidd.
Wele fi'n talu'r pwyth i'th orthrymwyr yn yr amser hwnnw; gwaredaf y rhai cloff a chasglaf y rhai gwasgaredig, a rhof iddynt glod ac enw yn holl dir eu gwarth.
Y pryd hwnnw, pan fydd yn amser i'ch casglu, mi ddof chwi adref; oherwydd rhof i chwi glod ac enw ymhlith holl bobloedd y ddaear, pan adferaf eich llwyddiant yn eich gu373?ydd," medd yr ARGLWYDD.