Yn awr, ymgryfha, Sorobabel,'" medd yr ARGLWYDD, "'ac ymgryfha, Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir,'" medd yr ARGLWYDD. "'Gweithiwch, oherwydd yr wyf fi gyda chwi,'" medd ARGLWYDD y Lluoedd,
'Os dwg un ym mhlyg ei wisg gig wedi ei gysegru, a gadael i'r wisg gyffwrdd bara, neu gawl, neu win, neu olew, neu unrhyw fwyd, a fyddant yn gysegredig?'" Atebodd yr offeiriaid, "Na fyddant."
Yna dywedodd Haggai, "Os bydd rhywun sy'n halogedig oherwydd cysylltiad chorff marw yn cyffwrdd 'r rhain, a fyddant yn halogedig?" Atebodd yr offeiriaid, "Byddant."
Yna dywedodd Haggai, "'Felly y mae'r bobl hyn, a'r genedl hon ger fy mron,' medd yr ARGLWYDD, 'a hefyd holl waith eu dwylo; y mae pob offrwm a ddygant yma yn halogedig.'"
A fydd had eto yn yr ysgubor? A fydd y winwydden, y ffigysbren, y pomgranadwydden a'r olewydden eto heb roi dim? o'r dydd hwn ymlaen fe'ch bendithiaf."
dymchwelaf orsedd brenhinoedd, dinistriaf gryfder teyrnasoedd y cenhedloedd, a dymchwelaf gerbydau a marchogion; bydd ceffylau a'u marchogion yn syrthio, pob un trwy gleddyf ei gyfaill.
Yn y dydd hwnnw,'" medd ARGLWYDD y Lluoedd, "'fe'th gymeraf di Sorobabel fab Salathiel, fy ngwas,'" medd yr ARGLWYDD, "'ac fe'th wisgaf fel sl-fodrwy, oherwydd tydi a ddewisais,'" medd ARGLWYDD y Lluoedd.