Bydd y sawl sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo'n euog; bydd y sawl sy'n eu gwerthu yn dweud, 'Bendigedig fo'r ARGLWYDD, cefais gyfoeth'; ac ni fydd eu bugeiliaid yn tosturio wrthynt.
Yn wir, ni thosturiaf mwy wrth drigolion y wlad," medd yr ARGLWYDD. "Wele fi'n gwneud i bawb syrthio i ddwylo'i gilydd ac i ddwylo'u brenin; ac fel y dinistrir y wlad, ni waredaf neb o'u gafael."
Yna dywedais, "Ni fugeiliaf chwi; y rhai sydd i farw, bydded iddynt farw, a'r rhai sydd i'w dinistrio, bydded iddynt fynd i ddinistr; a bydded i'r rhai sy'n weddill fwyta cnawd ei gilydd."
A dywedais wrthynt, "Os yw'n dderbyniol gennych, rhowch imi fy nghyflog; os nad yw, peidiwch." A bu iddynt hwythau bwyso fy nghyflog, deg darn ar hugain o arian.
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Bwrw ef i'r drysorfa y pris teg a osodwyd arnaf, i'm troi ymaith!" A chymerais y deg darn ar hugain a'u bwrw i'r drysorfa yn nhu375?'r ARGLWYDD.
oherwydd yr wyf yn codi yn y wlad fugail na fydd yn gofalu am y ddafad golledig, nac yn ceisio'r grwydredig, nac yn gwella'r friwedig, nac yn porthi'r iach, ond a fydd yn bwyta cnawd y rhai bras ac yn rhwygo'u traed i ffwrdd.
Gwae'r bugail diwerth, sy'n gadael y praidd. Trawed y cleddyf ei fraich a'i lygad de; bydded ei fraich yn gwbl ddiffrwyth, a'i lygad de yn hollol ddall."