Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| “Bryd hynny bydd ffynnon wedi ei hagor bob amser i deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem, i'w glanhau o bechod ac aflendid.” |
| 2 |
| “Bryd hynny hefyd,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod o'r tir. Fydd neb yn cofio eu henwau nhw hyd yn oed. A bydda i hefyd yn cael gwared â'r proffwydi ffals a'r ysbrydion aflan o'r tir. |
| 3 |
| Wedyn os bydd rhywun yn proffwydo, bydd ei dad a'i fam yn dweud wrtho, ‘Rhaid i ti farw! Ti'n honni siarad ar ran yr ARGLWYDD, ond yn proffwydo celwydd!’ A bydd ei dad a'i fam yn ei drywanu i farwolaeth. |
| 4 |
| “Bryd hynny bydd gan broffwyd gywilydd o'i weledigaethau, a bydd yn ceisio cuddio'r gwir drwy stopio gwisgo clogyn blewog proffwydi. |
| 5 |
| Bydd yn gwadu popeth a dweud, ‘Fi? Dw i ddim yn broffwyd. Dw i wedi bod yn gweithio fel gwas ar y tir es pan oeddwn i'n ifanc.’ |
| 6 |
| Yna bydd rhywun yn gofyn iddo, ‘Felly, beth ydy'r creithiau yna ar dy frest di?’ A bydd yn ateb, ‘Ces fy anafu yn nhŷ ffrindiau.’” |
| 7 |
| Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud, “Deffra gleddyf! Ymosod ar fy mugail, y dyn sy'n agos ata i. Taro'r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl. Bydda i'n taro'r rhai bach hefyd. |
| 8 |
| Dyna fydd yn digwydd drwy'r wlad i gyd,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydd dwy ran o dair yn cael eu lladd, gan adael un rhan o dair ar ôl. |
| 9 |
| A bydda i'n arwain y rheiny trwy dân, i'w puro fel mae arian yn cael ei buro, a'i profi fel mae aur yn cael ei brofi. Byddan nhw'n galw ar fy enw i, a bydda i'n ateb. Bydda i'n dweud, ‘Fy mhobl i ydy'r rhain,’ a byddan nhw'n dweud, ‘Yr ARGLWYDD ydy ein Duw ni.’” |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/zechariah/013.mp3
14
13