Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Pan edrychais i fyny, gwelais u373?r llinyn mesur yn ei law, |
| 2 |
| a dywedais, "Ble'r wyt ti'n mynd?" Atebodd, "I fesur Jerwsalem, i weld beth yw ei lled a beth yw ei hyd." |
| 3 |
| Wrth i'r angel oedd yn siarad mi ddod allan, daeth angel arall i'w gyfarfod, |
| 4 |
| a dweud wrtho, "Rhed i ddweud wrth y llanc acw, 'Bydd Jerwsalem yn faestrefi heb furiau, gan mor niferus fydd pobl ac anifeiliaid ynddi. |
| 5 |
| A byddaf fi,' medd yr ARGLWYDD, 'yn fur o dn o'i hamgylch, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.'" |
| 6 |
| "Gwyliwch, gwyliwch! Ffowch o dir y gogledd," medd yr ARGLWYDD, "oherwydd taenaf chwi ar led fel pedwar gwynt y nefoedd," medd yr ARGLWYDD. |
| 7 |
| "Gwyliwch! Ffowch i Seion, chwi sy'n trigo ym Mabilon." |
| 8 |
| Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, wedi i'w ogoniant fy anfon at y cenhedloedd sy'n eich ysbeilio, am fod pob un sy'n cyffwrdd chwi yn cyffwrdd channwyll ei lygad: |
| 9 |
| "Wele fi'n ysgwyd fy nwrn yn eu herbyn, a byddant yn ysbail i'w gweision eu hunain." Yna cewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd. |
| 10 |
| "Gwaedda a gorfoledda, ferch Seion; oherwydd yr wyf yn dod i drigo yn dy ganol," medd yr ARGLWYDD. |
| 11 |
| "A bydd cenhedloedd lawer yn glynu wrth yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn dod yn bobl i mi, a byddaf yn trigo yn dy ganol, a chei wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd atat. |
| 12 |
| Bydd yr ARGLWYDD yn etifeddu Jwda yn gyfran iddo yn y tir sanctaidd, a bydd eto yn dewis Jerwsalem. |
| 13 |
| Distawed pawb gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd y mae wedi codi o'i drigfa sanctaidd." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/zechariah/002.mp3
14
2