Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Yna dangosodd imi Josua yr archoffeiriad, yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw i'w gyhuddo. |
| 2 |
| A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, "Y mae'r ARGLWYDD yn dy geryddu di, Satan; yr ARGLWYDD, yr un a ddewisodd Jerwsalem, sy'n dy geryddu di. Onid marworyn wedi ei arbed o'r tn yw hwn?" |
| 3 |
| Yr oedd Josua yn sefyll o flaen yr angel mewn dillad budron; |
| 4 |
| a dywedodd yr angel wrth ei osgordd, "Tynnwch y dillad budron oddi amdano." Dywedodd wrth Josua, "Edrych fel y symudais dy euogrwydd oddi wrthyt, ac fe'th wisgaf gwisgoedd gwynion." |
| 5 |
| Dywedodd hefyd, "Rhodder twrban gln am ei ben"; a rhoesant dwrban gln am ei ben, a dillad amdano; ac yr oedd angel yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw. |
| 6 |
| Yna rhybuddiodd angel yr ARGLWYDD Josua a dweud, |
| 7 |
| "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Os rhodi yn fy ffyrdd a chadw fy ngorchmynion, cei reoli fy nhu375? a gofalu am fy llysoedd, a rhof iti'r hawl i fynd a dod gyda'r osgordd. |
| 8 |
| Gwrando, Josua yr archoffeiriad, ti a'th gyfeillion sydd ger dy fron, oherwydd arwyddion yw'r dynion hyn. Wele fi'n arwain allan fy ngwas, y Blaguryn. |
| 9 |
| Dyma'r garreg a osodaf o flaen Josua, carreg ac iddi saith llygad, ac wele fi'n egluro eu hystyr,' medd ARGLWYDD y Lluoedd. 'Symudaf ymaith euogrwydd y tir hwn mewn un diwrnod. |
| 10 |
| Y dydd hwnnw,' medd ARGLWYDD y Lluoedd, 'byddwch yn gwahodd bob un ei gilydd i eistedd o dan ei winwydden ac o dan ei ffigysbren.'" |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/zechariah/003.mp3
14
3