Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Dychwelodd yr angel oedd yn siarad mi, a'm deffro fel rhywun yn deffro o'i gwsg, |
| 2 |
| a dweud wrthyf, "Beth a weli?" Atebais innau, "Yr wyf yn gweld canhwyllbren, yn aur i gyd, a'i badell ar ei ben; y mae iddo saith o lampau a saith o bibellau i'r lampau arno; |
| 3 |
| y mae dwy olewydden gerllaw iddo, un ar dde'r badell a'r llall ar ei chwith." |
| 4 |
| Gofynnais i'r angel oedd yn siarad mi, "Beth yw'r rhain, f'arglwydd?" |
| 5 |
| Ac atebodd yr angel oedd yn siarad mi, "Oni wyddost beth yw'r rhain?" Dywedais, "Na wn i, f'arglwydd." |
| 6 |
| Yna dywedodd wrthyf, "Dyma air yr ARGLWYDD at Sorobabel: 'Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd,' medd ARGLWYDD y Lluoedd. |
| 7 |
| Beth wyt ti, O fynydd mawr? O flaen Sorobabel nid wyt ond gwastadedd. Bydd ef yn gosod y garreg uchaf, a phawb yn galw arni, 'Bendith! Bendith arni!'" |
| 8 |
| Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, |
| 9 |
| "Dwylo Sorobabel sy'n sylfaenu'r tu375? hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen"; a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch. |
| 10 |
| "Pwy bynnag a ddirmygodd ddydd y pethau bychain, caiff lawenhau wrth weld carreg y gwahanu yn llaw Sorobabel. Y saith hyn yw llygaid yr ARGLWYDD sy'n tramwyo dros yr holl ddaear." |
| 11 |
| Yna gofynnais iddo, "Beth yw'r ddwy olewydden hyn ar dde a chwith y canhwyllbren?" |
| 12 |
| A gofynnais iddo eilwaith, "Beth yw'r ddwy gangen olewydd sydd yn ymyl y ddwy bibell aur sy'n tywallt yr olew?" |
| 13 |
| Ac atebodd fi, "Oni wyddost beth yw'r rhain?" Dywedais innau, "Na wn i, f'arglwydd." |
| 14 |
| Yna dywedodd, "Y rhain yw'r ddau eneiniog sy'n gwasanaethu ARGLWYDD yr holl ddaear." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/zechariah/004.mp3
14
4