Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Edrychais i fyny eto, a gweld sgrl yn ehedeg. |
| 2 |
| A dywedodd wrthyf, "Beth a weli?" Dywedais innau, "Yr wyf yn gweld sgrl yn ehedeg, yn ugain cufydd ei hyd, a'i lled yn ddeg cufydd." |
| 3 |
| Yna dywedodd wrthyf, "Dyma'r felltith sy'n mynd allan dros yr holl ddaear: yn l un ochr, torrir ymaith pwy bynnag sy'n lladrata; yn l yr ochr arall, torrir ymaith pwy bynnag sy'n tyngu anudon. |
| 4 |
| Fe'i hanfonaf allan," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "ac fe i mewn i du375?'r lleidr ac i du375?'r un sy'n tyngu'n gelwyddog yn fy enw; ac fe erys yng nghanol ei du375? a'i ddifetha, yn goed a cherrig." |
| 5 |
| Daeth yr angel oedd yn siarad mi a dweud wrthyf, "Edrych i fyny i weld beth yw hyn sy'n dod i'r golwg." |
| 6 |
| Pan ofynnais, "Beth ydyw?" atebodd, "Casgen sy'n dod." A dywedodd, "Dyma'u drygioni trwy'r holl ddaear." |
| 7 |
| Yna codwyd y caead plwm, ac yr oedd dynes yn eistedd yn y gasgen. |
| 8 |
| Dywedodd yr angel, "Drygioni yw hon," a thaflodd hi i waelod y gasgen a chau'r caead plwm arni. |
| 9 |
| Edrychais i fyny, a gweld dwy wraig yn dod, a'r gwynt dan eu hadenydd (yr oedd ganddynt adenydd fel adenydd garan), ac yn codi'r gasgen rhwng nefoedd a daear. |
| 10 |
| Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad mi, "I ble maent yn mynd 'r gasgen?" |
| 11 |
| Dywedodd wrthyf, "I godi tu375? iddi yng ngwlad Sinar, a phan fydd yn barod fe'i gadewir yno yn ei lle priodol." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/zechariah/005.mp3
14
5