Bydd Ascalon yn gweld ac yn ofni, Gasa hefyd, a bydd yn gwingo gan ofid, ac Ecron, oherwydd drysir ei gobaith; derfydd am frenin yn Gasa, a bydd Ascalon heb drigolion;
Tynnaf ymaith ei waed o'i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd; bydd yntau'n weddill i'n Duw ni, ac fel tylwyth yn Jwda; a bydd Ecron fel y Jebusiaid.
Yna gwersyllaf i wylio fy nhu375?, fel na chaiff neb fynd i mewn nac allan. Ni ddaw gorthrymydd atynt mwyach, oherwydd yr wyf yn gwylio'n awr 'm llygaid fy hun.
"Llawenha'n fawr, ferch Seion; bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem. Wele dy frenin yn dod atat buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen.
Tyr ymaith y cerbyd o Effraim a'r meirch o Jerwsalem; a thorrir ymaith y bwa rhyfel. Bydd yn siarad heddwch 'r cenhedloedd; bydd ei lywodraeth o fr i fr, o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda, ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim; codaf dy feibion, Seion, yn erbyn meibion Groeg, a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr."
Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau, a'i saeth yn fflachio fel mellten; Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd 'r utgorn ac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de.
Bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn iddynt; llwyddant, sathrant y cerrig tafl, byddant yn derfysglyd feddw fel gan win, wedi eu trochi fel cyrn allor.