Bydd Ashcelon yn gweld hyn ac yn dychryn. Bydd Gasa yn gwingo mewn ofn; ac Ecron hefyd wedi anobeithio'n llwyr. Bydd brenin Gasa yn cael ei ladd, a fydd neb ar ôl yn Ashcelon.
Yna wnân nhw byth eto fwyta dim gyda gwaed ynddo, na chig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistia yn dod i gredu yn ein Duw — byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda. A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid.
Bydda i'n gwersylla o gwmpas y deml, i'w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy'n mynd a dod. Fydd neb yn ymosod ar fy mhobl i'w gormesu nhw byth eto. Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw.
Dathlwch bobl Seion! Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem! Edrych! Mae dy frenin yn dod. Mae e'n gyfiawn ac yn achub; Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn, ie, ar ebol asen.
Bydda i'n symud y cerbydau rhyfel o Israel, a mynd â'r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem. Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio! Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i'r gwledydd. Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr, ac o'r Afon Ewffrates i ben draw'r byd!
Jwda ydy'r bwa dw i'n ei blygu, ac Israel ydy'r saeth. Bydda i'n codi dy bobl di, Seion, yn erbyn gwlad Groeg. Bydd Seion fel cleddyf rhyfelwr yn fy llaw.
Yna bydd yr ARGLWYDD i'w weld uwchben ei bobl, a'i saeth yn tanio fel mellten. Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn chwythu'r corn hwrdd, ac yn ymosod fel gwynt stormus o'r de.
Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn amddiffyn ei bobl. Byddan nhw'n concro'r gelyn gyda ffyn tafl, ac yn gwledda a dathlu fel meddwon. Bydd fel y gwaed o bowlen yr aberth yn cael ei sblasio ar gyrn yr allor.