Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| "Wele'r dydd yn dod, yn llosgi fel ffwrnais, pan fydd yr holl rai balch a'r holl wneuthurwyr drwg yn sofl; bydd y dydd hwn sy'n dod yn eu llosgi," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "heb adael iddynt na gwreiddyn na changen. |
| 2 |
| Ond i chwi sy'n ofni fy enw fe gyfyd haul cyfiawnder meddyginiaeth yn ei esgyll, ac fe ewch allan a llamu fel lloi wedi eu gollwng. |
| 3 |
| Fe sathrwch y rhai drwg, oherwydd byddant fel lludw dan wadnau eich traed, ar y dydd pan weithredaf," medd ARGLWYDD y Lluoedd. |
| 4 |
| "Cofiwch gyfraith fy ngwas Moses, y deddfau a'r ordeiniadau a orchmynnais iddo yn Horeb ar gyfer Israel gyfan. |
| 5 |
| "Wele fi'n anfon atoch Elias y proffwyd cyn dod dydd mawr ac ofnadwy'r ARGLWYDD. |
| 6 |
| Ac fe dry galonnau'r rhieni at y plant a chalonnau'r plant at y rhieni, rhag imi ddod a tharo'r ddaear difodiant." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/malachi/004.mp3
4
4