Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Ydy, mae'r diwrnod yn dod; mae fel ffwrnais yn llosgi. Bydd yr holl rai haerllug sy'n gwneud drwg yn cael eu llosgi fel bonion gwellt, ar y diwrnod sy'n dod,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Byddan nhw'n llosgi'n ulw nes bydd dim gwreiddyn na changen ar ôl. |
| 2 |
| Ond bydd haul cyfiawnder yn gwawrio arnoch chi sy'n fy mharchu i, a iachâd yn ei belydrau. Byddwch yn mynd allan, yn neidio fel llo wedi ei ollwng yn rhydd. |
| 3 |
| Byddwch yn sathru'r rhai drwg, a byddan nhw fel lludw dan eich traed ar y diwrnod y bydda i'n gweithredu,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. |
| 4 |
| Cofiwch ddysgeidiaeth Moses, fy ngwas; y rheolau a'r canllawiau rois iddo ar Fynydd Sinai ar gyfer Israel gyfan. |
| 5 |
| Edrychwch, dw i'n anfon y proffwyd Elias atoch chi cyn i ddiwrnod mawr a dychrynllyd yr ARGLWYDD ddod. |
| 6 |
| Bydd yn annog rhieni a phlant i droi'n ôl ata i, rhag i mi ddod a taro'r wlad, a'i dinistrio'n llwyr. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/malachi/004.mp3
4
4