×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Numeri 13

1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2
"Anfon ddynion i ysbo Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i bobl Israel; yr wyt i anfon pennaeth o bob un o lwythau eu hynafiaid."
3
Felly, yn l gorchymyn yr ARGLWYDD, anfonodd Moses hwy allan o anialwch Paran, pob un ohonynt yn flaenllaw ymhlith pobl Israel.
4
Dyma eu henwau: o lwyth Reuben: Sammua fab Saccur;
5
o lwyth Simeon: Saffat fab Hori;
6
o lwyth Jwda: Caleb fab Jeffunne;
7
o lwyth Issachar: Igal fab Joseff;
8
o lwyth Effraim: Hosea fab Nun;
9
o lwyth Benjamin: Palti fab Raffu;
10
o lwyth Sabulon: Gadiel fab Sodi;
11
o lwyth Joseff, sef o lwyth Manasse: Gadi fab Susi;
12
o lwyth Dan: Ammiel fab Gemali;
13
o lwyth Aser: Sethur fab Michael;
14
o lwyth Nafftali: Nahbi fab Foffsi;
15
o lwyth Gad: Geuel fab Maci.
16
Dyna enwau'r dynion a anfonodd Moses i ysbo'r wlad. Rhoddodd Moses yr enw Josua i Hosea fab Nun.
17
Wrth i Moses eu hanfon i ysbo gwlad Canaan, dywedodd wrthynt, "Ewch i fyny trwy'r Negef i'r mynydd-dir,
18
ac edrychwch pa fath wlad yw hi: prun ai cryf ynteu gwan, ychydig ynteu niferus yw'r bobl sy'n byw ynddi;
19
prun ai da ynteu drwg yw'r tir lle y maent yn byw; prun ai gwersylloedd ynteu amddiffynfeydd yw eu dinasoedd;
20
prun ai ffrwythlon ynteu llwm yw'r wlad; ac a oes coed ynddi ai peidio. Byddwch ddewr, a chymerwch beth o gynnyrch y tir." Adeg blaenffrwyth y grawnwin aeddfed oedd hi.
21
Felly, aethant i fyny i ysbo'r wlad o anialwch Sin hyd Rehob, ger Lebo-hamath.
22
Aethant i fyny trwy'r Negef a chyrraedd Hebron; yno yr oedd Ahiman, Sesai a Talmai, disgynyddion Anac. (Adeiladwyd Hebron saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.)
23
Pan ddaethant i ddyffryn Escol, torasant gangen ac arni glwstwr o rawnwin, ac yr oedd dau yn ei chario ar drosol; daethant hefyd phomgranadau a ffigys.
24
Galwyd y lle yn ddyffryn Escol oherwydd y clwstwr o rawnwin a dorrodd yr Israeliaid yno.
25
Ar l ysbo'r wlad am ddeugain diwrnod, daethant yn
26
i Cades yn anialwch Paran at Moses, Aaron a holl gynulliad pobl Israel. Adroddasant y newyddion wrthynt hwy a'r holl gynulliad, a dangos iddynt ffrwyth y tir.
27
Dywedasant wrth Moses, "Daethom i'r wlad yr anfonaist ni iddi, a'i chael yn llifeirio o laeth a ml, a dyma beth o'i ffrwyth.
28
Ond y mae'r bobl sy'n byw yn y wlad yn gryf; y mae'r dinasoedd yn gaerog ac yn fawr iawn, a gwelsom yno ddisgynyddion Anac.
29
Y mae'r Amaleciaid yn byw yng ngwlad y Negef; yr Hethiaid, y Jebusiaid a'r Amoriaid yn byw yn y mynydd-dir; a'r Canaaneaid wrth y mr, a gerllaw'r Iorddonen."
30
Yna galwodd Caleb ar i'r bobl dawelu o flaen Moses, a dywedodd, "Gadewch inni fynd i fyny ar unwaith i feddiannu'r wlad, oherwydd yr ydym yn sicr o fedru ei gorchfygu."
31
Ond dywedodd y dynion oedd wedi mynd gydag ef, "Ni allwn fynd i fyny yn erbyn y bobl, oherwydd y maent yn gryfach na ni."
32
Felly rhoesant adroddiad gwael i'r Israeliaid am y wlad yr oeddent wedi ei hysbo, a dweud, "Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbo yn difa ei thrigolion, ac y mae'r holl bobl a welsom ynddi yn anferth.
33
Gwelsom yno y Neffilim (y mae meibion Anac yn ddisgynyddion y Neffilim); nid oeddem yn ein gweld ein hunain yn ddim mwy na cheiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn ymddangos iddynt hwythau."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau