[4-15] Dyma eu henwau nhw: [Enw] — [Llwyth] Shammwa fab Saccwr — Reuben Shaffat fab Chori — Simeon Caleb fab Jeffwnne — Jwda Igal fab Joseff — Issachar Hosea fab Nwn — Effraim Palti fab Raffw — Benjamin Gadiel fab Sodi — Sabulon Gadi fab Swsi — Joseff (sef Manasse) Ammiel fab Gemali — Dan Sethwr fab Michael — Asher Nachbi fab Foffsi — Nafftali Gewel fab Machi — Gad
Beth am y pridd? Ydy e'n ffrwythlon neu'n wael? Oes yna fforestydd yno? Byddwch yn ddewr! Ewch yno, a dewch â peth o gynnyrch y tir yn ôl gyda chi.” (Roedd hi'r adeg o'r flwyddyn pan oedd y grawnwin aeddfed cyntaf yn cael eu casglu).
Wrth fynd trwy'r Negef dyma nhw'n cyrraedd Hebron. Roedd yr Achiman, y Sheshai a'r Talmai yn byw yno, sef disgynyddion Anac. (Roedd tref Hebron wedi ei hadeiladu saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.)
Pan gyrhaeddon nhw ddyffryn Eshcol dyma nhw'n torri cangen oddi ar winwydden gyda un swp o rawnwin arni. Roedd rhaid cael dau i'w chario ar bolyn rhyngddyn nhw. A dyma nhw'n casglu pomgranadau a ffigys hefyd.
A dyma nhw'n mynd yn ôl i Cadesh yn anialwch Paran at Moses ac Aaron a phobl Israel. A dyma nhw'n dweud wrth y bobl beth roedden nhw wedi ei weld, ac yn dangos y ffrwyth roedden nhw wedi ei gario yn ôl.
Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Aethon ni i'r wlad lle gwnest ti'n hanfon ni. Mae'n dir ffrwythlon — tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! A dyma beth o'i ffrwyth.
Mae'r Amaleciaid yn byw yn y Negef, yr Hethiaid, Jebwsiaid ac Amoriaid yn byw yn y bryniau, a'r Canaaneaid yn byw ar yr arfordir ac ar lan Afon Iorddonen.”
A dyma nhw'n rhoi adroddiad gwael i bobl Israel. “Byddwn ni'n cael ein llyncu gan bobl y wlad buon ni'n edrych arni. Mae'r bobl welon ni yno yn anferth!