Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, |
| 2 |
| "Llefara wrth bobl Israel, a chymer wialen gan bob un o arweinwyr y tylwythau, deuddeg i gyd. Ysgrifenna enw pob dyn ar ei wialen, |
| 3 |
| ond ar wialen Lefi ysgrifenna enw Aaron. Felly bydd gan bob un o arweinwyr y tylwythau wialen. |
| 4 |
| Yna yr wyt i osod y gwiail ym mhabell y cyfarfod, o flaen y dystiolaeth, lle byddaf yn cwrdd thi. |
| 5 |
| Bydd gwialen y dyn a ddewisaf fi yn blaguro; dyma sut y rhoddaf daw ar yr Israeliaid sy'n grwgnach yn dy erbyn." |
| 6 |
| Felly llefarodd Moses wrth bobl Israel, a rhoddodd pob un o arweinwyr y tylwythau wialen iddo, deuddeg i gyd; ac yr oedd gwialen Aaron ymhlith eu gwiail hwy. |
| 7 |
| Yna gosododd Moses y gwiail gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y dystiolaeth. |
| 8 |
| Trannoeth aeth Moses i mewn i babell y dystiolaeth, a gwelodd fod gwialen Aaron, a oedd yn cynrychioli tu375? Lefi, wedi blaguro a blodeuo a dwyn almonau aeddfed. |
| 9 |
| Yna daeth Moses 'r holl wiail oedd gerbron yr ARGLWYDD allan at holl bobl Israel, ac wedi iddynt eu gweld, cymerodd pob dyn ei wialen. |
| 10 |
| Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Rho wialen Aaron yn l o flaen y dystiolaeth fel arwydd i'r rhai gwrthryfelgar; rhydd hyn daw ar eu grwgnach yn f'erbyn, rhag iddynt farw." |
| 11 |
| Gwnaeth Moses yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. |
| 12 |
| Dywedodd pobl Israel wrth Moses, "Edrych, yr ydym yn trengi! Y mae wedi darfod amdanom! Y mae wedi darfod am bob un ohonom! |
| 13 |
| Bydd pob un sy'n nesu at dabernacl yr ARGLWYDD yn marw. Ai trengi fydd tynged pob un ohonom?" |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/numbers/017.mp3
36
17