Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: |
| 2 |
| “Dw i eisiau i ti gymryd ffon gan arweinydd pob un o lwythau Israel — un deg dwy ohonyn nhw i gyd — ac ysgrifennu enw'r arweinydd ar ei ffon ei hun. |
| 3 |
| Ysgrifenna enw Aaron ar ffon llwyth Lefi. Bydd un ffon ar gyfer arweinydd pob llwyth. |
| 4 |
| Wedyn rhaid i ti osod y ffyn o flaen Arch yr ymrwymiad yn y babell lle dw i'n cyfarfod gyda ti. |
| 5 |
| Bydd ffon y dyn dw i'n ei ddewis yn blaguro. Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl gwyno di-baid yma gan bobl Israel yn dy erbyn di.” |
| 6 |
| Felly dyma Moses yn siarad gyda phobl Israel, a dyma pob un o arweinwyr y llwythau yn rhoi ei ffon iddo — un deg dwy o ffyn i gyd. Ac roedd ffon Aaron yn un ohonyn nhw. |
| 7 |
| A dyma Moses yn gosod y ffyn o flaen yr ARGLWYDD tu mewn i Babell y Dystiolaeth. |
| 8 |
| Pan aeth Moses i Babell y Dystiolaeth y diwrnod wedyn, roedd ffon Aaron (yn cynrychioli llwyth Lefi) wedi blaguro! Roedd blagur, a blodau a chnau almon yn tyfu arni! |
| 9 |
| Felly dyma Moses yn dod a'r ffyn allan i bobl Israel edrych arnyn nhw. A dyma pob arweinydd yn cymryd y ffon oedd â'i enw e arni. |
| 10 |
| Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd â ffon Aaron yn ôl i'w gosod o flaen y dystiolaeth. Bydd yn arwydd i rybuddio unrhyw un sy'n gwrthryfela. Bydd hyn yn stopio'r holl gwyno, ac yn arbed unrhyw un arall rhag marw.” |
| 11 |
| Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. |
| 12 |
| A dyma bobl Israel yn dweud wrth Moses, “Dŷn ni'n siŵr o farw! Mae hi ar ben arnon ni! |
| 13 |
| Mae unrhyw un sy'n mynd yn agos at Dabernacl yr ARGLWYDD yn siŵr o farw! Oes rhaid i ni i gyd farw?” |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/numbers/017.mp3
36
17